Carwyn Jones
Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio denu rhai o wyddonwyr mwyaf blaenllaw’r byd mewn pecyn gwerth £50 miliwn.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones y byddai’r gronfa yn cael ei defnyddio i annog gwyddonwyr blaenllaw i symud i Gymru yn ogystal â hybu ymchwil a’r economi.

Y bwriad yw defnyddio arian o’r cynllun, Ser Cymru, tuag at offer arbenigol a chyflogau y byddai academyddion blaenllaw yn ei “ddisgwyl”, yn ogystal ag ariannu eu timau ymchwil.

Dywed y Llywodaeth bod Cymru yn datblygu enw iddi ei hun ym maes gwyddoniaeth, ond serch hynny, mae’n dal i dangyflawni wrth ddenu grantiau ymchwil y DU.

Fe ddylai Cymru fod yn ennill 5% o arian ymchwil cystadleuol ond yn 2009/10 fe enillodd 3.3% o’i gymharu â 14.8% yn yr Alban.

Bwriad Ser Cymru, meddai Carwyn Jones, ydy mynd i’r afael â hyn.

“Petai ein prifysgolion yn denu 5% o arian ymchwil cystadleuol gan Gyngor Ymchwil y DU, yna fe fyddai hynny yn dod â £27 miliwn i’n heconomi.

“Fe fydd Ser Cymru yn ein helpu i ddenu mwy o dalent i Gymru i hybu’r ffigwr yma ac yn y pen draw yn creu mwy o fusnesau o safon uwch a swyddi ymchwil yng Nghymru.”

Mewn adroddiad swyddogol dywedodd y prif ymgynghorydd gwyddonol yr Athro John Harries, y dylai Cymru wneud fwy o ymdrech wrth wneud ceisiadau am arian gan lywodraeth y DU, a thargedu timau ymchwil o fri.

Dywedodd Carwyn Jones: “Mae gan Gymru nifer o gryfderdau gwyddonol, ond fel y dywedodd ein prif ymgynghorydd gwyddonol, fe allwn ni fod yn gwneud yn well.”

Mae’r strategaeth yn nodi tri maes er mwyn hybu ymchwil a busnesau gan gynnwys y gwyddorau bywyd a iechyd, ynni carbon-isel a’r amgylchedd a pheirianneg datblygiedig a deunyddiau.