Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynigion newydd i ddiwygio gwasanaethau cymdeithasol. Y bwriad  yw rhoi mwy o reolaeth i bobl dros y gofal y maen nhw’n ei dderbyn a mwy o hawl i ofyn am asesiad o’u hanghenion.

Lansiodd Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, ymgynghoriad cyhoeddus ar Fesur Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru), deddfwriaeth a fydd yn “trawsnewid” y ffordd o ddarparu gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.

Nod y mesur arfaethedig yw rhoi mwy o ryddid i bobl benderfynu pa wasanaethau mae nhw eu hangen, ac ar yr un pryd gynnig gwasanaethau cyson o ansawdd da ledled y wlad.

Amcanion y ddeddfwriaeth

  • Caniatáu i Weinidogion Cymru ystyried ymestyn yr ystod o wasanaethau sydd ar gael, a hynny drwy wneud taliadau uniongyrchol. Byddai hynny’n golygu bod gan bobl fwy o reolaeth dros y gwasanaethau y maen nhw’n eu defnyddio;
  • cyflwyno meini prawf cymhwysedd cenedlaethol, gan sicrhau bod pobl yn cael eu hasesu yn ôl eu hanghenion, yn hytrach na mewn perthynas â’r gwasanaethau sydd ar gael yn lleol;
  • cyflwyno asesiadau symudol, sy’n golygu y bydd gan bobl yr hawl i gael gwasanaethau tebyg os byddan nhw’n  symud i rywle arall yng Nghymru, heb fod yn rhaid cael asesiad newydd o’u hanghenion os nad yw’r rheini wedi newid;
  • ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi gwybodaeth i ofalwyr am eu hawliau a’r gwasanaethau sydd ar gael iddyn nhw yn eu hardaloedd lleol;
  • creu gwasanaeth mabwysiadu cenedlaethol i wella canlyniadau lleoliadau plant.

‘Llais cryfach i bobl’

Hefyd fe fydd camau yn cael eu cymryd i gryfhau rôl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru er mwyn ategu’r newidiadau sydd wedi’u cyhoeddi eisoes i foderneiddio system gwyno’r gwasanaethau cymdeithasol.

Dywedodd Gwenda Thomas: “Mae’r mesur hwn yn enghraifft wych o sut rydyn ni’n defnyddio pwerau newydd y Cynulliad Cenedlaethol i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl Cymru.

“Nod y mesur yw rhoi llais cryfach i bobl a rheolaeth go iawn dros y gwasanaethau gofal cymdeithasol y maen nhw’n eu defnyddio, a thrwy hynny helpu i ddiwallu eu hanghenion newidiol.

‘Gwella lles’

Ychwanegodd: “Dydyn ni ddim yn barod i eistedd yn ôl a gwneud dim, gan weld llai a llai o bobl yn llwyddo i gael y cymorth sydd ei angen arnynt. Bydd y mesur yn ei gwneud yn orfodol i ddatblygu modelau newydd ar gyfer gwasanaethau sy’n cynnal a gwella lles pobl mewn angen.

“Bydd mwy o ffocws ar wasanaethau atal ac ymyrryd yn gynnar, a bydd yn rhaid wrth fwy o weithio mewn partneriaeth ac integreiddio gwasanaethau o du’r awdurdodau lleol a phartneriaid eraill.

“Mae’n hanfodol bod defnyddwyr y gwasanaethau a’u gofalwyr yn rhan o’r broses, a rhaid i asesiadau ystyried y canlyniadau sydd yn bwysig iddyn nhw, yn hytrach na dim ond eu cymhwysedd i gael gwasanaeth penodol.

“Bydd y mesur hwn yn ein helpu i fynd i’r afael â’r heriau niferus sy’n wynebu’r gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, gan ein galluogi i fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael”.

Croesawu’r cynigion

Mae Age Cymru wedi croesawu cynigion Llywodraeth Cymru.

Dywedodd llefarydd yr elusen Iwan Rhys Roberts: “Mae na gyfle yma i gyflwyno cyfundrefn sydd yn haws ei ddeall ac a fydd yn caniatáu i bobl gael gwell dealltwriaeth o’u hawliau.

“Mae’r system bresennol yn or-gymhleth a mae’r meini prawf ar gyfer gwasanaethau yn amrywio ar draws Cymru. Dyma gyfle i gyflwyno cysondeb a thegwch i’r system gwasanaethau cymdeithasol”.

Bydd yr ymgynghoriad yn para am dri mis, o 12 Mawrth hyd at 1 Mehefin 2012.