Darlun o ddyluniad y ganolfan cadw gwenyn (Bright 3D)
Mae trefnwyr canolfan ymwelwyr newydd ar gyfer gwenyn mêl yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu rhedeg y cynllun.

Amcan Canolfan Genedlaethol Cadw Gwenyn Cymru, a fydd yn agor yn nyffryn Conwy ymhen ychydig fisoedd, fydd atal dirywiad ym mhoblogaeth y wenynen fêl a hyrwyddo cadw gwenyn yng Nghymru.

Mae disgwyl i’r ganolfan ddenu hyd at 25,000 o ymwelwyr y flwyddyn ac mae’n rhan o’r cynllun gwerth £6.5 miliwn yng Nghanolfan Bwyd Bodnant ar Fferm Ffwrnais tua 5 milltir i’r de o Gonwy. Fe fydd cynnyrch sy’n gysylltiedig â gwenyn, gan gynnwys mêl a chwyr, ar werth yno hefyd.

Esboniodd llefarydd ar ran Canolfan Genedlaethol Cadw Gwenyn Cymry eu bod yn chwilio am wirfoddolwyr i gyflawni amrywiol weithgareddau, gan gynnwys:

  • cynorthwyo yn y ganolfan ymwelwyr
  • helpu i adeiladu
  • paratoi a rheoli’r wenynfa
  • arwain ymweliadau i’r cychod, a
  • rheoli dyletswyddau garddio.

Bydd noson gwybodaeth i wirfoddolwyr yn cael ei chynnal ddiwedd y mis (Nos Iau 29 Mawrth am 6.30) yn Henfaes, Fferm Ymchwil Prifysgol Bangor yn Abergwyngregyn.

Gofynnir i bobl sydd â diddordeb e-bostio info@beeswales.co.uk neu ffonio Fiona ar 07801 697 436.