Simon Thomas
Mae Plaid Cymru wedi beirniadu cynlluniau’r Gweindiog Addysg i roi £10,000 yr un i ysgolion uwchradd yn y bandiau isaf yng Nghymru gan ddweud bod y swm yn “boenus o annigonol.”

Wrth gyhoeddi’r newyddion yng Nghaerdydd heddiw, dywedodd Leighton Andrews y byddai’n rhaid i bob ysgol ym mand 4 a 5 gyflwyno cynlluniau a  thargedau manwl ar sut i wella’u perfformiad cyn eu bod nhw’n cael yr arian ychwanegol.

Wrth ymateb i’r cynlluniau, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Addysg, Simon Thomas AC: “Mae’r ffigwr o £10,000 a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Addysg heddiw yn boenus o annigonol.

“Alla’i ddim deall beth mae’n ddisgwyl i’r ysgolion allu ei gyflawni gyda’r arian hwn. Rwy’n amau y gallai ateb y meini prawf i gael yr arian gostio cymaint i ysgolion yn y diwedd ag unrhyw swm a dderbyniant. Aiff hyn ddim yn agos at helpu’r ysgolion sydd yn y bandiau isaf.”

Mae’r cynllun bandio yn  rhoi ysgolion mewn un o bump band cyrhaeddiad yn ôl nifer o ffactorau, gan gynnwys canlyniadau TGAU a phresenoldeb disgyblion. Ond mae Plaid Cymru wedi bod yn feirniadol o’r polisi bandio ysgolion o’r cychwyn gan eu galw’n “dablau cynghrair dan enw arall.”

Ychwanegodd Simon Thomas: “Rydym wedi galw am sefydlu proses werthuso adeiladol, lle byddai adroddiadau annibynnol yn cynnig trosolwg deg o berfformiad ysgol, heb enwi a chywilyddio. Rydym eisiau i’r Gweinidog Addysg fabwysiadu’r agwedd adeiladol hon, a pheidio â pharhau i ddilyn ei bolisïau dinistriol.”

Undebau’n croesawu’r cyhoeddiad

Mae undeb athrawon ATL Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad.

Dywedodd Dr Philip Dixon, Cyfarwyddwr ATL Cymru: “Rydym ni’n croesawu’r cyhoeddiad heddiw y bydd arian ychwanegol i ysgolion ym mand 4 a 5. Rydym eisoes wedi galw am gymorth newydd ac ychwanegol i ysgolion ac fe fydd hyn yn cael croeso mawr o fewn y byd addysg.”

Roedd Leighton Andrews hefyd wedi cyhoeddi heddiw y byddai panel newydd o athrawon a phrifathrawon yn cael ei sefydlu er mwyn cynghori Llywodraeth Cymru a rhannu syniadau. Fe fydd y panel yn cwrdd bob dau fis a bydd aelodau’r panel yn newid bob dwy flynedd.

Dywedodd Dr Philip Dixon bod “creu’r panel newydd hefyd yn hanfodol i wella perfformiad ysgolion.”