Mae dau o Gymru yn mynd i fod yn cymryd rhan mewn râs dros yr iaith y penwythnos hwn – ond râs i godi ymwybyddiaeth o’r iaith Wyddeleg fydd honno, a hynny yn Iwerddon.

Bydd Sion Jobbins a Rebecca Williams yn teithio draw i Iwerddon bore fory, yn barod i gymryd rhan mewn cilomedr o’r râs gyfnewid sy’n mynd o Donegal, trwy Derry, Belffast, Dulyn a draw i’r gorllewin tuag at Ynysoedd yr Aran.

Yn ôl Sion Jobbins, mae cynnal yr An Rith bob yn ail flwyddyn yn ffordd o “godi hyder pobol” yn yr Wyddeleg, a rhoi presenoldeb i’r iaith ar y stryd.

Hyrwyddo’r iaith

Mae’r ras hefyd yn fodd o godi arian tuag at ymgyrchoedd i hyrwyddo’r iaith, wrth i unigolion, teuluoedd, ysgolion, busnesau, clybiau a sefydliadau noddi bob cilomedr.

Mae’r râs ei hun wedi ei selio ar rasus eraill y mae Sion Jobbins wedi ymweld â nhw yn y gorffennol yng Ngwlad y Basg a Llydaw.

Yng Ngwlad y Basg maen nhw eisoes yn cynnal rasus codi arian tebyg ers 1980, pan sefydlwyd râs y Korrika gan yr AEK, mudiad dysgu Basgeg i oedolion. Bellach mae dros 600,000 o bobol yn cymryd rhan yn y râs sy’n para pythefnos gan redeg 24 awr di-stop ar draws y wlad.

Mae râs tebyg hefyd wedi ei sefydlu yn Llydaw ers 2008, sef râs y Redadeg. Dechreuodd y râs yn gystadleuaeth 800km, ond eleni, bydd y râs yn ymestyn i 1,400km.

Sefydlwyd yr An Rith yn 2010 ac mae hithau hefyd wedi tyfu o 700km i 1,000km erbyn eleni.

‘Ras yn tynnu pobl at ei gilydd’

Bydd Siôn Jobbins yn arwain y dirprwyaeth o Gymru eleni i weld sut mae’r An Rith yn cael ei threfnu a’i chynnal. Bydd hefyd yn rhedeg cilomedr drwy Belffast gyda rhedwyr tramor eraill o Wlad y Basg, Llydaw a Chatalwnia. Byddant hefyd yn ymweld â sir wledig Monaghan i gael blas ar y râs mewn ardal mwy gwledig.

“Mae’r an Rith, fel y Korrika a’r Redadeg, yn ffordd wych o godi ymwybyddiaeth ac arian i’r iaith frodorol,” meddai Sion Jobbins.

“Mae’n tynnu pobl at ei gilydd – siaradwyr rhugl, dysgwyr a chefnogwyr. Mae’n tynnu cymunedau at ei gilydd ac yn ffordd weledol, gyffrous ac agored o ddangos cryfder yr iaith a dangos ein bod ni ‘yma o hyd’ ac yn camu ymlaen,” meddai.

Hefyd yn mynd ar y râs gyda Sion Jobbins bydd Rebecca Williams o undeb athrawon UCAC. Fe fydd hi’n adrodd yn ôl i grŵp ymbarel o fudiadau Cymraeg, Mudiadau Dathlu’r Gymraeg, wedi’r râs, er mwyn gweld a oes syniadau yno i Gymru.