Mae’r rhestr fer ar gyfer un o wobrau pwysicaf byd llyfrau plant Cymru wedi cael ei gyhoeddi heddiw – a nifer o’r enwau yn rai cyfarwydd iawn i’r gystadleuaeth.

Wrth lansio rhestr fer Gwobrau Tir Na n-Og 2012 heddiw, mae hi wedi dod i’r amlwg bod rhai o gyn-enillwyr y gystadleuaeth yn ôl ar y rhestr fer eleni, fel Manon Steffan Ros, Lleucu Roberts a
D Geraint Lewis.

Mae’r gwobrau yn cael eu rhoi mewn tri categori, sef categori cynradd Cymraeg, categori uwchradd Cymraeg a llyfr Saesneg gorau’r flwyddyn.

Ond er bod enwau cyfarwydd ar y rhestr, mae Cadeirydd Panel Dewis y Gwobrau Cymraeg, Nia Gruffydd, yn dweud bod yr amrywiaeth mor ffres ag erioed.

“Mae ehangder yr arlwy yn golygu bod yma rywbeth at ddant pawb,” meddai.

Yn ôl Elwyn Jones, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau, mae lansio’r rhestr fer yn gyfle i werthfawrogi’r doniau ysgrifennu sydd i gael yng Nghymru.

“Mae hi’n braf iawn medru llongyfarch ein hawduron, darlunwyr a chyhoeddwyr ar safon ac amrywiaeth y llyfrau sydd wedi’u cyhoeddi ar gyfer plant a phobl ifanc yn ystod 2011,” meddai.

Y Llyfrau ar restrau byrion 2012:

Categori Cynradd Cymraeg

Bob O’Chwith – Haf Roberts, lluniau gan Giles Greenfield (Gwasg Carreg Gwalch)

Mewn Geiriau Eraill, Thesawrws i Blant – D Geraint Lewis (Gomer)

Prism (Cyfres yr Onnen) Manon Steffan Ros (Y Lolfa)

Straeon o’r Mabinogi – Mererid Hopwood, lluniau gan Brett Breckon (Gomer)

Categori Uwchradd Cymraeg

Yr Alarch Du (Cyfres y Dderwen) – Rhiannon Wyn (Y Lolfa)

Y Ddau Ryfel Byd Enbyd (Hanes Atgas) – Catrin Stevens (Gomer)

Rhyfel Cartref (Cyfres Pen Dafad) – Gwenno Hughes (Y Lolfa)

Siarad (Cyfres y Dderwen) – Lleucu Roberts (Y Lolfa)

Llyfr Saesneg Gorau’r Flwyddyn

Full Moon – Jenny Sullivan (Pont)

Nelson at Sea – Simon Weston gyda David FitzGerald, lluniau gan Jac Jones (Pont)

Saving SS Shannon – Phil Carradice (Pont)

Bydd enwau’r enillwyr yng nghategori’r llyfrau Cymraeg yn cael eu cyhoeddi yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni, ar ddydd Iau, 7 Mehefin. Bydd enw enillydd y wobr Saesneg yn cael ei gyhoeddi mewn digwyddiad arbennig yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd ar ddydd Iau, 17 Mai.