Traeth y Borth
Mae cynllun sylweddol i ddiogelu  tref arfordirol yn y gorllewin rhag y môr wedi cael ei agor yn swyddogol heddiw, a hynny ar gost o £13 miliwn.

Heddiw, roedd y Gweinidog Amgylchedd John Griffiths yn nhref glan môr Borth i agor y cynllun sydd wedi gweld creigiau rîff yn cael eu codi i amddiffyn y dref ar arfordir Bae Ceredigion rhag y llifogydd cyson sy’n bygwth.

“Mae’r Borth yn enghraifft wych o ardal lle rydym wedi blaenoriaethu’n buddsoddiad er mwyn lleihau’r risg i gymunedau bregus,” meddai’r Gweinidog heddiw, wrth agor yr amddiffynfa newydd.

Mae’r dref yn cynnal 420 o dai a busnesau, yn ogystal a chynnal rhan o reilffordd y Cambria rhwng Aberystwyth a’r Amwythig. Mae hefyd yn fan poblogaidd gyda syrffwyr.

Roedd y gwaith adeiladu yn cynnwys creu amddiffynfa newydd yn lle’r hen amddiffynfeydd pren, adeiladu rîff i syrffwyr, a chreu morglawdd a dau argor. Mae miloedd o dunelli o gerrig mân wedi cael eu mewnforio hefyd, i’w hychwanegu at argloddiau o gerrig mân naturiol.

Hwb i dwristiaeth

Wrth siarad yn y lansiad, dywedodd y Gweinidog fod y cynllun wedi rhoi cyfle i’r Llywodraeth wella sawl agwedd ar yr ardal leol.

“Trwy addasu’r rîff i wella’r amodau syrffio, mae’r cynllun wedi rhoi hwb gwirioneddol i’r diwydiant twristiaeth ac i’r economi leol hefyd.  Bydd hyn o ddiddordeb arbennig i’r syrffwyr brwd sy’n ymweld â’r Borth bob blwyddyn,” meddai.

“Yn ogystal â lleihau’r risg o lifogydd yn yr ardal a chefnogi safleoedd twristiaeth lleol, bydd y cynllun o fudd i gymuned y Borth hefyd.  Mae’n dysgu’r gymuned am beryglon llifogydd ac am y camau syml y gall pobl eu cymryd i wneud yn sicr bod eu cartrefi’n gallu gwrthsefyll llifogydd yn well.”

Mae’r gwaith wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ar y cyd gan fuddsoddiad o Gronfa Datgblygu Rhanbarthol Ewrop, a chyfraniad gan Gyngor Sir Ceredigion.