Cheryl Gillan
Mae Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan wedi cyhoeddi y bydd adroddiad a gomisiynwyd ganddi am bwerau’r Cynulliad  yn cael ei gyhoeddi flwyddyn yn hwyrach na’r disgwyl, yn 2014.

Roedd Cheryl Gillan wedi lansio comisiwn datganoli y llynedd i ystyried a ddylid rhoi mwy o bwerau i Gymru. Bydd y rhan gyntaf, sy’n ymwneud â rhoi mwy o bwerau dros drethu i Gymru, yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref yn ôl y disgwyl.

Ond mae’r comisiwn wedi gwneud cais i Ysgrifennydd Cymru i adrodd flwyddyn yn hwyrach na’r disgwyl ar yr ail ran, a fydd yn ystyried pwerau’r Cynulliad Cenedlaethol.

Mewn llythyr i Aelodau Seneddol, dywedodd Cheryl Gillan: “Rwyf wedi cytuno i’r cais am ohiriad a bydd y comisiwn felly’n cyhoeddi ail ran ei ymchwil yng ngwanwyn 2014, yn hytrach nag yn 2013, gan ei alluogi i roi ystyriaeth ddwys i drefn datganoli yng Nghymru”.