Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi croesawu’r ymateb cadarnhaol i ymgynghoriad ar gyflwyno trefn o ganiatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau.

Bydd y ddeddfwriaeth yn golygu bod pobl yn cael eu cynnwys yn awtomatig ar y rhestr rhoi organau  onibai eu bod yn datgan eu gwrthwynebiad.

Yn ystod yr ymgynghoriad a ddaeth i ben ar 31 Ionawr, derbyniodd y Llywodraeth  1,234 o ymatebion, gyda 52% (646) o’r holl ymatebwyr yn cefnogi’r cynigion, a 39% (478) yn eu gwrthwynebu.

Wrh gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion heddiw, dywedodd y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths: “Rwy’n ymwybodol bod rhoi organau yn bwnc emosiynol a bod gan lawer o bobl farn gref ar y mater.

“I bobl sydd angen trawsblaniad, fel rhai o’r rheini i mi gwrdd â nhw yn Uned Arennau Maelor Wrecsam heddiw, mae hon yn ddeddfwriaeth bwysig iawn. Er bod cynnydd wedi bod yng Nghymru yn ddiweddar yn nifer yr organau a meinwe sy’n cael eu rhoi, ar gyfartaledd mae un person yr wythnos yng Nghymru yn marw yn aros am drawsblaniad oherwydd diffyg rhoddwyr addas.

“Byddwn ni’n ystyried y cyfraniadau hyn yn ofalus wrth i ni ddatblygu’r mesur drafft, sydd i’w gyhoeddi i ymgynghori arno cyn yr haf.

“Y nod yw sefydlu’r system newydd yn 2015. Yn y cyfamser, mae’n bwysig bod pobl yn trafod eu dymuniadau gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau ac yn ymuno â’r gofrestr rhoi organau.”

‘Byddem ar fai am beidio gweithredu’

Mae llefarydd Plaid Cymru ar iechyd Elin Jones, wedi croesawu’r gefnogaeth i newid y drefn rhoi organau.

“Mae mwyfwy o bobl yn disgwyl am drawsblaniadau bob blwyddyn ac fel y mae pethau ar hyn o bryd mae gormod o bobl yn marw tra ar y rhestr aros a byddem ar fai am beidio gweithredu.

“Nid yw’r system yn dwyn ymaith hawl yr unigolyn i benderfynu – os nad yw rhywun eisiau rhoi ei organau, yna’n syml gallen nhw ddatgan hynny.

“Yn wyneb y dadleuon o amgylch y mater yma mae’n bwysig iawn ein bod ni’n cael trafodaeth ac ymgynghoriad cyhoeddus llawn ac agored.”.

Ym mis Mehefin bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi mesur drafft ar fater rhoi organau ac yn ymgynghori yn ei gylch dros gyfnod o ddeuddeg wythnos.