Rosemary Butler
Mae gwleidyddiaeth Cymru’n dangos y gwaetha’ a’r gorau o ran cydraddoldeb i fenywod.

Ac mae Llywydd y Cynulliad wedi dweud y bydd yn defnyddio’i chyfnod yn y swydd i geisio gwella pethau.

Mae cyfartaledd uwch o ferched yn y Cynulliad nag yn yr un senedd arall yng ngwledydd Prydain.

Ond mae’r ffigwr ar gyfer Aelodau Seneddol benywaidd o Gymru yn llawer gwaeth.

Mae 25 o Aelodau’r Cynulliad yn ferched – 41.6% o’r cyfanswm a mwy nag yn yr Alban (35.7%), San Steffan (22.3%), a Gogledd Iwerddon (18.5%).

Er hynny, dim ond saith o’r 40 Aelod Seneddol sy’n fenywod – 17.5%.

‘Llawr gludiog’ meddai Llywydd y Cynulliad

Mewn datganiad ar drothwy Diwrnod Rhynwladol y Menywod heddiw, fe ddywedodd Llywydd y Cynulliad fod angen gwella’r sefyllfa i ferched yn gyffredinol.

“Mae menywod wedi cyrraedd y swyddi uchaf, ond dim cymaint ag y bydden ni’n hoffi,” meddai Rosemary Butler.

“Mae pobol yn sôn am nenfwd gwydr ond dw i’n meddwl mwy am lawr gludiog. Rhaid i chi godi oddi ar y llawr i gyrraedd y nenfwd a rhwng y ddau, mae yna haen drwchus iawn o ddynion.”

Y cefndir

Ar ôl etholiadau 2007, roedd gan y Cynulliad fwyafrif o ACau benywaidd – 31 – ac, ar gyfartaledd, mae tua hanner aelodau Cabinet Llywodraethau’r Cynulliad wedi bod yn ferched.