Lesley Griffiths
Mae disgwyl i gynllun newydd i wneud fferyllfeydd yn fan cychwyn i drin mân anhwylderau iechyd gael ei gyflwyno ar draws Cymru.

Mae’r cynllun cenedlaethol yn gobeithio y bydd fferyllfeydd yn trin achosion fel clefyd y gwair,  llau pen, dolur gwddw a diffyg traul.

Mae ycmwhil newydd gan y Llywodraeth yn dangos for 40% o amser meddygon teulu yn mynd i ddelio â chleifion sy’n dioddef o fân anhwylderau.

Bydd y fferllwyr wedyn yn darparu meddyginiaethau o restr sydd wedi ei gytuno o flaen llaw, neu’n eu hannog i fynd i weld meddygon teulu os bod angen.

‘Gwell defnydd o fferyllfeydd’

Wrth lansio’r cynllun newydd heddiw, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths fod “gwneud gwell defnydd o fferyllfeydd yn ymrwymiad allweddol yn ein rhaglen Llywodraethol.

“Trwy ymweld â fferyllfeydd yn hytrach na meddygon teulu er mwyn delio â mân anhwylderau, bydd dim angen i gleifion wneud apwyntiad, ond fe fyddan nhw’n dal yn gallu cael gafael ar y meddyginiaeth angenrheidiol heb gost.”

‘Rhyddhau amser meddygon teulu’

Dywedodd y Gweinidog Iechyd y byddai hyn yn ffordd o “ryddhau amser meddygon teulu er mwyn delio ag achosion mwy cymhleth, a gallai hefyd dorri lawr ar amser aros.”

Y math o gyflyrau fydd yn cael eu cynnwys yn y cynllun yw rhwymedd, diffyg traul, clefyd y gwair, peswch, dolur gwddf, tarwden y traed, y llindag, llau pen, dolur rhydd, dafadennau, verrucas a llynger. Mae fferyllwyr wedi eu hyfforddi eisoes i ddelio â chyflyrau o’r fath.

Y bwriad yw y bydd y gawasanaethau hyn ar gael yn ystod oriau agor arferol feryllfeydd, gan gynnwys gyda’r hwyr ac ar benwythnosau mewn rhai ardaloedd, a gallai’r gwasanaethau fod ar gael mewn rhai llefydd o fewn 12 mis.

Croesawu’r cynllun

Mae Fferyllfa Cymunedol Cymru wedi creosawu’r newyddion heddiw, gan ddweud ei bod yn braf gweld y Llywodraeth yn gweithredu ar eu haddewidion.

Mae disgwyl i’r gwasanaeth gael ei gyflwyno trwy 710 o fferyllfeydd cymunedol ar draws Cymru.

Yn ôl Ian Cowan, Cadeirydd Fferyllfa Cymunedol Cymru, byddai cynllun o’r fath yn gwneud “defnydd da iawn o’r arbenigedd meddyginiaethol sydd gan fferyllwyr, yn ogystal â gwneud y mwyaf o’r mynediad rhwydd i’r 710 o fferyllfeydd mewn trefi, pentrefi a chanol dinasoedd ar draws y wlad.”

Dywedodd y byddai’r cynllun yn allweddol wrth wneud “fferyllfeydd cymunedol yn ganolfannau iechyd go iawn ar y stryd fawr.

“R’yn ni’n edrych ymlaen i gydweithio â’r Llywodraeth a’r Byrddau Iechyd er mwyn cyflwyno’r cynllun cyffrous newydd hwn, gam wrth gam rhwng nawr a 2015.”