Alun Ffred Jones
Mewn dadl yn y Senedd heddiw mae Plaid Cymru am amlinellu eu gweledigaeth am becyn ariannol tymor-byr gwerth £1bn i economi Cymru.

Yn ôl llefarydd y Blaid ar yr economi, Alun Ffred Jones AC, mae gan y pecyn botensial i roi hwb economaidd y mae mawr angen amdano yng Nghymru.

Bydd y pecyn ariannol yn cynnwys cyfrwng buddsoddi o’r enw Adeiladu i Gymru, a fydd yn sefydlu cwmni a fydd yn gallu codi cyfalaf ar y farchnad ariannol ac, yn ei dro, yn buddsoddi’r arian mewn ysgolion ac ysbytai newydd.

Bydd y pecyn hefyd yn cynnwys ymrwymiad i adolygu ac ehangu cynllun benthyca awdurdodau lleol a manteisio ar bwerau benthyca Cymdeithasau Tai.

‘Cynlluniau Llywodraeth Lafur Cymru yn annigonol’

“Rydym eisiau gweld buddsoddi yn awr i hybu’r economi ac i helpu pobl trwy’r adegau anodd hyn, ond bydd y mesurau yr ydym ni’n eu cynnig hefyd yn help i sicrhau y bydd ein heconomi yn addas at y diben yn y tymor hwy,” meddai Aelod Cynulliad Arfon Alun Ffred Jones.

“Buddsoddi, nid caledi, yw’r ffordd allan o’r argyfwng economaidd hwn, ond mae cynlluniau presennol y Llywodraeth Lafur yn hollol annigonol. Mae diweithdra yma yng Nghymru yn gyson uwch na chyfartaledd y DG, a does dim arwyddion o fywiogrwydd yn yr economi fel y mae pethau ar hyn o bryd. Felly cyfrifoldeb y Llywodraeth Lafur yw gweithredu i hybu’r economi.”

‘Gwariant yn hanfodol’

Ycwanegodd: “Yng ngoleuni’r toriadau i gyllideb Cymru gan y ConDemiaid, rydym yn galw eto ar i’r Llywodraeth Lafur geisio ffynonellau eraill i dalu am fuddsoddi cyfalaf a hybu’r economi. Nid yw’r hyn a gyhoeddwyd gan Lafur hyd yn oed yn cau bwlch y toriadau a osodwyd gan y Torïaid ar Gymru.

“Rydym wedi galw dro ar ôl tro am gyllido ychwanegol –  megis ein cynnig Adeiladu I Gymru – er mwyn cau’r bwlch o 40% yn ein cyllideb gyfalaf a mynd y tu hwnt i hynny. Mae’r gwariant hwn yn hanfodol ac y mae angen i’r llywodraeth Lafur weithredu nawr – dyw eistedd yn ôl a chydnabod fod problem yn bodoli fel y gwnaethant hyd yma ddim yn ddigon da.”