Mae disgwyl i 200 o bobol ddod ynghyd ar risiau’r Senedd heddiw er mwy gwrthwynebu unrhyw doriadau i ysbyty’r Tywysog Philip, Llanelli.

Bydd ymgyrchwyr yn cyflwyno deiseb i swyddogion y Cynulliad y prynhawn yma am 12.45pm, gan alw ar y Llywodraeth i ddiogelu eu gwasanaethau iechyd lleol.

Deiseb

Mae dros tair mil o bobol wedi arwyddo’r ddeiseb, sydd wedi ei threfnu gan grŵp ymgyrchu Diogelwch Ein Gwasanaeth Ysbyty Llanelli.

Mae llofnodwyr y ddeiseb eisiau gweld eu “HOLL wasanaethau lleol yn cael eu cynnal a’u diogelu yn Ysbyty y Tywysog Philip. Rydyn ni’n gwrthwynebu israddo ein ysbyty. Rydyn ni’n gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Llywodraeth Lafur Cymru i adolygu eu cynlluniau ar frys.”

Mae disgwyl i’r ymgyrchwyr ddechrau cyrraedd y Senedd ym Mae Caerdydd am 11.30am, pan fydd cyfres o gyflwyniadau’n cael eu gwneud o risiau’r Cynulliad, cyn cyflwyno’r ddeiseb i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, William Powell AC.