Mae tri plentyn arall wedi cael eu heintio gan y Frech Goch ym Mhorthmadog , yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw.



Erbyn hyn, mae 36 o bobol wedi cael eu heintio gan y feirws, a 30 ohonyn nhw wedi eu cysylltu’n uniongyrchol ag Ysgol Eifionydd, Porthmadog.

Daeth y cadarnhad diweddaraf ddiwrnod yn unig wedi i dri achos arall o’r feirws gael eu darganfod ddoe.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr nawr yn annog rhieni ar draws Gwynedd i scrhau bod eu plant wedi cael eu brechu yn erbyn y feirws – wedi iddi ddod i’r amlwg nad oes yr un o’r rhai sydd wedi eu heintio wedi derbyn y cwrs llawn o’r ddau frechlyn MMR.

‘Lledu’n rhwydd’

Wrth drafod achosion Porthmadog heddiw, rhybuddiodd Dr Judy Heart o Iechyd Cyhoeddus Cymru fod y Frech Goch yn “heintus iawn ac yn gallu lledu yn rhwydd iawn.”

Mae’r feirws yn gallu achosi cymhlethdodau yn cynnwys niwmonia, llid yr ymennydd ac enseffalitis yn arbennig ymysg plant dan bump oed, rhai sydd â systemau imiwnedd gwan a phlant â deiet gwael. Mae hefyd yn gallu bod yn angheuol mewn achosion prin.

Cafodd dwy sesiwn frechu eu cynnal yr wythnos ddiwethaf yn yr ardal leol a chafodd 30 o  blant eu brechu.

Mae meddygon teulu yn yr ardal hefyd yn cynnig brechiadau i blant lleol sydd heb gael y ddau ddôs o’r brechlyn MMR.

‘Perygl bydd y clefyd yn lledaenu’

Dywedodd Dr Chris Whiteside, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Fe wnaethom ragweld y byddai nifer yr achosion yn cynyddu ond tristwch serch hynny yw gweld cynnydd mor fawr.

“Cyhyd ag y bydd plant heb gael y ddau ddos o’r brechiad MMR, mae posibilrwydd y bydd mwy o bobol yn cael y frech goch,” meddai.

“Yna mae perygl y bydd y clefyd yn lledaenu i ffrindiau, teulu neu eraill sydd heb gael eu brechu neu na allant gael eu brechu oherwydd problemau iechyd ac sydd felly’n agored iawn i gael eu heintio gan y frech goch.

“Mae llawer o’r plant yn yr achosion dan sylw heb gael eu brechiadau MMR. Rydw i felly’n annog rhieni yn y Gogledd nad ydyn nhw wedi trefnu i’w plant gael eu brechu i weithredu ar unwaith.”