Rhodri Glyn Thomas
Mae galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi mwy o fenthyca lleol heddiw, gyda’r nod o gryfhau economiau lleol Cymru.

Mae Plaid Cymru yn dweud y dylid cefnogi benthyca lleol er mwyn helpu  busnesau bach a chreu swyddi.

Mae’r blaid yn dweud bod angen mwy o fuddsoddi ar lefel leol mewn ysgolion, tai a gwneud gwelliannau i briffyrdd er mwyn symud yr economi yn ei blaen.

‘Angen hwb dirfawr’

Dywedodd llefarydd llywodraeth leol Plaid Cymru, Rhodri Glyn Thomas AC, ei fod am weld “unrhyw arian sydd gael yn cael ei gyfeirio at economïau lleol er mwyn rhoi’r hwb sydd ei angen yn ddirfawr, a chychwyn yr economi.

“Ar yr adeg economaidd anodd hon, mae angen i’r Llywodraeth weithredu ar frys i amddiffyn a chreu swyddi a helpu busnesau bach,” meddai.

“Mae Plaid Cymru eisiau gweld mwy o fuddsoddi cyfalaf mewn adeiladau newydd i ysgolion, tai a phriffyrdd, gan gynnwys trwsio tyllau ac ail-wynebu ffyrdd a phalmentydd peryglus,” meddai Rhodri Glyn Thomas.

“Cred Plaid Cymru fod awdurdodau lleol yn allweddol yn yr adferiad economaidd, ac y mae angen i’r Llywodraeth Lafur wneud yr hyn fedr i’w galluogi i gyflawni ar y potensial hwnnw.”