Jane Hutt
Mae’r Gweinidog Cyllid Jane Hutt wedi annog Llywodraeth y DU i gefnogi twf economaidd Cymru pan fydd yn cyhoeddi’r Gyllideb yn ddiweddarach yn y mis.

Yn dilyn cyfarfod rhwng Gweinidogion Cyllid ar draws y DU gyda’r Prif Ysgrifennydd i’r Trysorlys, Danny Alexander, mae Jane Hutt wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn eu hannog i gynyddu gwariant cyfalaf yn y Gyllideb sydd ar ddod.

‘Bregus’

“Mae’n rhaid i Gyllideb Llywodraeth y DU gefnogi twf economaidd ar draws y DU,” meddai Jane Hutt ar ôl cyfarfod â Gweinidogion Cyllid Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

“Tra bod yna rhai arwyddion addawol i’r economi yng Nghymru yn y misoedd diwethaf, mae’r adferiad yn parhau i fod yn fregus iawn ac rydyn ni’n awyddus i wneud y mwyaf o’r buddsoddiad dros y flwyddyn nesaf, er mwyn cynyddu’r galw ar ein heconomi.”

Mae Jane Hutt yn dweud ei bod hi bellach wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i’w hannog i ystyried rhagor o gamau i hyrwyddo’r economi ar gyfer 2012-13.

“Mae ganddon ni ddigon o gynlluniau sy’n barod i fynd yng Nghymru, y gallen ni eu tynnu ’mlaen i 2012-13, neu eu cyflymu, petai mwy o adnoddau ar gael.”

Dywedodd fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi dangos eu hawydd i wella economi Cymru – a’i bod hi nawr yn bryd i Lywodraeth San Steffan wneud yr un peth, a chynyddu eu buddsoddiad cyfalaf yn y Gyllideb ddiwedd y mis.