Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi annog rhieni yng Ngwynedd i sicrhau bod eu plant yn cael brechiad MMR wrth i nifer yr achosion o’r frech goch gynyddu i 33.

Dywed ICC a a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y gall y feirws ledu ymhellach wrth i nifer fawr o blant ddod at eu gilydd ar gyfer yr eisteddfodau cylch yn yr wythnosau nesaf.

Fe gyhoeddodd ICC ddoe bod tri achos arall o’r feirws wedi ei ddarganfod ym Mhorthmadog gan ddod â’r cyfanswm i 33. Mae 29 o’r achosion wedi eu cysylltu’n uniongyrchol â Ysgol Eifionydd ym Mhorthmadog.

Mae’r pedwar arall yn byw yn yr ardal ond does ganddyn nhw ddim cysylltiad uniongyrchol â’r ysgol.

MMR

Yn y mwyafrif o’r achosi hyn, nid yw’r plant wedi cael brechiad MMR, neu wedi cael un dos yn unig.

Dau ddos o’r brechiad MMR yw’r unig ddiogelwch yn erbyn y feirws, yn ôl ICC.

Mae’r feirws yn heintus iawn ac mae’n  gallu achosi cymhlethdodau yn cynnwys niwmonia, llid yr ymennydd ac enseffalitis yn arbennig ymysg plant dan bump oed,  rhai sydd â systemau imiwnedd gwan a phlant â deiet gwael. Gall fod yn angheuol mewn achosion prin.

Cafodd dwy sesiwn frechu eu cynnal yr wythnos ddiwethaf yn yr ardal leol a chafodd  30 o  blant eu brechu.

Mae meddygon teulu yn yr ardal hefyd yn cynnig  brechiadau i blant lleol sydd heb gael y ddau ddos o’r brechlyn MMR.

‘Perygl bydd y clefyd yn lledaenu’

Dywedodd Dr Chris Whiteside, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’r frech goch yn glefyd heintus iawn ac mae’n lledaenu’n hawdd iawn. Fe wnaethom ragweld y byddai nifer yr achosion yn cynyddu ond tristwch serch hynny yw gweld cynnydd mor fawr.

“Cyhyd ag y bydd plant heb gael y ddau ddos o’r  brechiad MMR, mae posibilrwydd y bydd mwy o  bobl yn cael y frech goch.

“Yna mae perygl y bydd y clefyd yn lledaenu i ffrindiau, teulu neu eraill sydd heb gael eu brechu neu na allant gael eu brechu oherwydd problemau iechyd ac sydd felly’n agored iawn i gael eu heintio gan y frech goch.

“Mae llawer o’r plant yn yr achosion dan sylw heb gael eu brechiadau MMR.

“Rwyf felly’n annog rhieni yn y Gogledd nad ydynt wedi trefnu i’w plant gael eu brechu i weithredu ar unwaith.

“Mae MMR yn frechlyn diogel ac effeithiol sy’n amddiffyn plant rhag salwch feirysol mwyaf difrifol plentyndod.

“Ar hyn o bryd mae achosion o’r frech goch yng Nglannau Mersi. Fodd bynnag, nid ydym yn ymwybodol o unrhyw gysylltiadau rhwng yr achosion ym Mhorthmadog a’r achosion yng Nglannau Mersi.”

Symptomau

Dylai plant gael eu dos cyntaf o’r brechlyn pan fyddant yn 12-13 mis  oed a’r ail pan fyddan nhw tua thair blwydd a phedwar mis oed.

Bydd llawer o bobl a fydd yn dal y frech goch yn cael twymwn, peswch, llygaid coch a thrwyn llawn ac yn teimlo’n sâl yn gyffredinol. Mae’r frech ei hun yn ymddangos ychydig ddyddiau’n ddiweddarach gan ddechrau ar yr wyneb a lledaenu i weddill y corff dros nifer o ddiwrnodau.

“Os bydd eich plentyn yn sâl ac os byddwch yn amau bod y ferch goch arno, dylech gysylltu â’ch meddyg teulu neu â Galw Iechyd Cymru ar 0845 4647. Ni ddylai eich plentyn fynd i’r ysgol neu’r feithrinfa am bum niwrnod ar ôl i’r frech ymddangos,” ychwanegodd Dr Whiteside.

“Yr unig ffordd o atal y frech goch yw sicrhau bod o leiaf 95% o blant yng Nghymru wedi cael dau ddos o’r brechlyn MMR.

“Er bod ein ffigurau wedi gwella, mae llawer o ffordd i fynd cyn y gallwn warantu bod plant Cymru’n ddiogel rhag y frech goch.”