Prifysgol Aberystwyth
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cadarnhau heddiw fod caniatâd cynllunio amlinellol wedi ei roi ar gyfer datgblygu adeilad newydd i gartrefu myfyrwyr Aberystwyth.

Cyhoeddodd y Brifysgol heddiw fod Cyngor Sir Ceredigion wedi rhoi caniatad cynllunio amlinellol iddyn nhw adeiladu’r neuadd breswyl newydd.

Bydd yr adeilad newydd, sydd i gael ei adeiladu ar dir fferm Penglais, yn gallu darparu llety ar gyfer hyd at 1,000 o fyfyrwyr.

Mae’r lleoliad ar gyfer yr adeilad newydd wrth ymyl Pentre Myfyrwyr Jane Morgan, ar ben rhiw Penglais.

Mae’r Brifysgol ar hyn o bryd ar ganol camau olaf y broses o ddylunio, adeiladu ariannu a gweithredu’r datblygiad gwerth £40 miliwn.

Mae disgwyl y bydd y gwaith adeiladu yn cychwyn erbyn diwedd 2012, ac yn barod i dderbyn myfyrwyr erbyn mis Medi 2014.

Yn ôl James Wallace, Cyfarwyddwyr Prosiectau Llety Newydd Prifysgol Aberystwyth, mae’r cynllun yn “cynrychioli elfen strategol bwysig y Brifysgol i ddarparu profiad preswyl rhagorol ar gyfer ein myfyrwyr.

“Bydd y datblygiad yn cynnwys ystafelloedd hunan-arlwyo astudio sengl a fflatiau stiwdio sydd wedi’i cynllunio i gyrraedd disgwyliadau myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig,” meddai.