Mae Plaid Cymru yn galw am sefydlu Comisiwn Elusennau penodol i Gymru er mwyn osgoi sgandal tebyg i AWEMA, y corff lleiafrifoedd ethnig sydd bellach wedi gorfod dod i ben.

Yn ôl Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Rhodri Glyn Thomas, mae angen amddiffyn cyrff gwirfoddol yng Nghymru trwy sefydlu Comisiwn Elusennau i Gymru. Dywedodd y dylai’r comisiwn osod canllawiau clir i elusennau ar fod yn wleidyddol diduedd.

“Gallai sgil-effeithiau scandal AWEMA fod yn andwyol dros ben i’r trydydd sector ac i’n hegin-ddemocratiaeth,” meddai Rhodri Glyn Thomas.

“Mae’n hanfodol fod gwersi yn cael eu dysgu, a bod y llywodraeth yn cymryd camau buan a phendant er mwyn gofalu nad yw’r system yn cael ei chamddefnyddio fel hyn yn y dyfodol.”

‘Datganoli pwerau’

Ychwanegodd Rhodri Glyn Thomas, “Credaf mai nawr yw’r amser i Gomisiwn Elusennau i Gymru gael ei sefydlu, er mwyn  i reoleiddio elusennau gael ei lywodraethu yma yng Nghymru. Rwy’n galw ar y llywodraeth i weithio tuag at sefydlu Comisiwn Elusennau i Gymru. Fel cam cyntaf, mae angen i’r Prif Weinidog anfon sylwadau at Lywodraeth y DG ynghylch datganoli pwerau dros gyfraith elusennau”.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oeddynt am wneud sylw ar y mater.

‘Dim angen ymateb anghymesur’

Dywedodd Graham Benfield OBE, Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru wrth Golwg360: “Mae hwn yn gynnig diddorol. Rydym yn cefnogi’r bwriad i ddiogelu enw da y trydydd sector ehangach yng ngoleuni’r hyn sydd wedi digwydd mewn un mudiad.  Fodd bynnag, mae angen i ni roi’r syniad o Gomisiwn Elusennau i Gymru yn ei gyd-destun.

“Mae 30,000 o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru, yn cynnwys dros 8,000 o elusennau cofrestredig.  Er gwaetha’r problemau diweddar gydag AWEMA, mae nifer yr achosion o gamddefnydd neu gamymddwyn mor brin y byddai angen asesu’r achos ar gyfer creu corff rheoleiddio newydd yn ofalus.  Mae’n bwysig na cheir ymateb anghymesur.”

Mae gan yr Alban reoleiddwr elusennau annibynnol, yr OSCR, sy’n goruchwylio ac yn cofrestru dros 23,000 o gyrff yn yr Alban. Mae Cymru’n rhannu Comisiwn Elusennau gyda Lloegr, a rhaid i elusen sydd â chyllideb blynyddol o dros £5,000 gofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau. Mae dros 9,000 o elusennau wedi eu cofrestru yng Nghymru, gyda 90% ohonynt yn gweithio o fewn Cymru’n unig, yn ôl y Comisiwn Elusennau.