Fe fydd firws sydd yn achosi namau geni mewn da byw yn lledaenu ar draws Ynys Prydain wrth i’r gwanwyn fynd rhagddo.

Mae firws Schmallenberg eisoes wedi heintio 92 o ffermydd yn ne a dwyrain Lloegr, ac mae yna bryder y gallai ledu i Gymru.

Y gred yw bod y firws wedi cyrraed y Deyrnas Unedig o’r Cyfandir ym mis Hydref y llynedd, ar ôl i’r gwybed oedd yn ei gario gael eu chwythu dros y môr.

Ar ôl heintio’r defaid,  fe fu farw’r gwybed dros y gaeaf, ond fe allai’r firws fod wedi ei drosglwyddo i genhedlaeth nesaf y gwybed a fydd yn daeor wedi i’r tywydd gynhesu.

“Mae yna bryder fod y firws wedi lledu i wybed eraill yn y Deyrnas Unedig,” meddai Nigel Gibbens, Prif Swyddog Milfeddygol Lloegr, wrth bapur newydd y Telegraph.

“Does dim arwydd o hynny eto ond rydyn ni’n parhau i aros i gael gweld.

“Swydd Gaerloyw yw’r pellaf i’r gogledd y mae’r firws wedi cyrraedd ar hyn o bryd.”

Mae firws Schmallenberg eisoes wedi effeithio ar dros fil o ffermydd yn Ewrop. Mae wedi ei enwi ar ôl y dref yn yr Almaen lle ddaeth y firws i’r amlwg yn ystod yr haf y llynedd.