Mae prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dweud ei fod yn credu y bydd technoleg llinell y gôl yn cael ei fabwysiadu os yw’n gweithio yn gywir.

Daw ei sylwadau wrth i FIFA gymryd cam arall tuag at gymeradwyo defnyddio’r dechnoleg heddiw, er gwaethaf gwrthwynebiad gan rai o fawrion y gêm.

Dywedodd llywydd FIFA, Sepp Blatter, ei fod yn credu y gallai argyhoeddi Bwrdd Rhyngwladol y Cymdeithasau Pêl-droed i gymeradwyo’r cynllun ym mis Mehefin.

Bydd y bwrdd yn derbyn adroddiad ynglŷn â’r profion diweddaraf heddiw. Mae’n debyg mai system sydd wedi ei ddatblygu gan gwmni Hawkeye o Brydain sydd dan ystyriaeth.

Dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford, mai sicrhau bod y dechnoleg yn gweithio yw’r cam cyntaf.

“Rydw i’n credu y bydd technoleg llinell y gôl yn digwydd – unwaith y maen nhw’n sicrhau bod y dechnoleg yn iawn,” meddai.

Mae Sepp Blatter wedi bod yn ymgyrchu am dechnoleg llinell y gôl ers i’r bêl groesi’r llinell yn gêm yr Almaen yn erbyn Lloegr yng Nghwpan y Byd 2010, heb i’r dyfarnwr sylweddoli.

“Dydw i ddim am i’r hyn ddigwyddodd yng Nghwpan y Byd ddigwydd eto,” meddai Sepp Blatter.

“Rydw i’n credu y bydd modd i mi argyhoeddi Bwrdd Rhyngwladol y Cymdeithasau Pêl-droed.

“Dydw i ddim yn fodlon disgwyl a gweld beth ddigwyddith. Pe bawn i mewn Cwpan y Byd arall ac yn gweld yr un peth yn digwydd eto, fe fydden i’n marw o gywilydd.”