Cafodd tri o bobol eu harestio yn dilyn ymosodiad honedig yng Nghaerdydd nos Wener.

Aethpwyd ag un dyn i Ysbyty Athrofaol Cymru yn dioddef o anafiadau difrifol yn dilyn y digwyddiad.

Mae adroddiadau fod y brwydro wedi digwydd yn hwyr nos Wener ar Stryd Romilly, yn ardal Treganna.

Galwyd yr heddlu am 11.08pm ddydd Gwener. Roedd Stryd Romilly ar gau’r bore ma wrth i’r heddlu barhau i ymchwilio.