Kirtsy Williams
Bydd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn amddiffyn y penderfyniad i gefnogi cyllideb y Blaid Lafur mewn araith yng nghynhadledd wanwyn y Blaid heddiw.

Yn ei haraith yng Nghaerdydd, bydd Kisrty Williams yn dweud bod y blaid wedi defnyddio eu dylanwad “i wneud gwahaniaeth a helpu teuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd yng Nghymru”.

“Fe fyddai wedi bod yn haws yn wleidyddol i ni droi cefn ar drafodaethau’r gyllideb,” meddai. “Mae’n haws yn wleidyddol i eistedd ar yr ystlys ac ymosod ar y pleidiau eraill.

“Ond roedd angen cyllideb ar Gymru ac mae hi’n gyllideb well am ein bod ni wedi dylanwadu arni.

“Y flwyddyn ddiwethaf roeddwn i wedi dweud y byddai gan y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru gyfle i ddylanwadu ar gyfeiriad y wlad.

“A phan ddaw’r cyfle hwnnw, ni fyddai’r blaid yn siomi pobol Cymru.

“Roedden ni’n dweud na fyddai’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn cefnogi unrhyw gyllideb nad oedd yn gwneud cynnydd tuag at gau’r bwlch â Lloegr mewn gwariant ar addysg .

“Ni fydden ni chwaith yn pleidleisio o blaid cyllideb nad oedd yn mynd i’r afael â diweithdra ac yn hwb i’r economi.

“Dyna oedd y flaenoriaeth yn ystod blwyddyn yr etholiad, a dyna oedd yr etholiad wrth drafod y gyllideb.

“Ac felly, o fis Ebrill ymlaen, fe fydd pob plentyn yng Nghymru sy’n cael cinio ysgol am ddim yn derbyn £450 ychwanegol tuag at eu haddysg.

“Mae hynny diolch i ddylanwad a phleidleisiau’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.”

Blwyddyn ers y refferendwm

Dywedodd fod y Llywodraeth Lafur wedi dangos “diffyg uchelgais, dychymyg a brys” yn sgil y bleidlais i ddatganoli rhagor o bwerau deddfu i Gymru flwyddyn union yn ôl.

“Mae’n flwyddyn heddiw ers y refferendwm hanesyddol ar roi rhagor o rymoedd deddfu i Gymru,” meddai Kisrty Williams.

“Rydw i’n cofio’r teimlad o obaith ac optimistiaeth pan gyrhaeddodd y pleidleisiau ‘Ie’. Roedd gan y bobol ffydd y byddai’r Cynulliad yn gweithredu.

“Ond yna ffurfiwyd llywodraeth Lafur arall yng Nghaerdydd. Ers hynny dim ond un darn o ddeddfwriaeth newydd sydd wedi ei gyhoeddi.

“Mae Carwyn Jones yn honni ei fod yn ‘sefyll cornel Cymru’. Ond mae’n anodd cymryd hynny o ddifri pan mae yn swpyn llipa dros ei bodiwm yn y Senedd.

“Mae Carwyn Jones yn llipa. Ei Lywodraeth yn llesg. A Chymru sy’n dioddef.”