Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i wrthdrawiad marwol a ddigwyddodd toc cyn 11am ar Stryd yr Ysgol yng Nghastell-nedd ddydd Mercher wedi galw am wybodaeth.

Cafodd dyn 34 oed ei ladd yn y fan a’r lle ar ôl gwrthdrawiad rhwng ei moped coch a Ford Fiesta glas, tua 10.55am. Caewyd y ffordd am dair awr wrth i’r heddlu ymchwilio.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu eu bod nhw eisiau i yrrwr Ford Focus glas tywyll i gysylltu â nhw.

Roedd y cerbyd yn rhan o wrthdrawiad bychan yn gynharach yr un bore ar ôl atal wrth olau coch ar gyffordd Stryd Cimla a Gnoll Park Road.

Tua 10.05am tarodd moped coch gefn y Ford Focus wrth y goleuadau coch. Doedd y gyrrwr na’r teithiwr ddim yn gwisgo helmed.

Gwelwyd gyrrwr y Ford Focus yn mynd allan o’i gar i ddadlau â nhw cyn gyrru oddi yno.

Mae Heddlu De Cymru eisiau i yrrwr y Ford Focus glas tywyll neu unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu’r moped i gysylltu â nhw ar 101.