Robert Urch
Cafodd dyn oedd yn byw yng Nghaerdydd am gyfnod ei garcharu am naw mlynedd ddoe am ei “weithredoedd gwyrdröedig a drygionus” â phlant.

Roedd Robert Urch, 65, o from Victoria Court, Widnes, Cheshire, wedi cyfaddef yn Llys y Goron Bradford iddo droseddau yn erbyn pedwar o blant dros gyfnod o 36 mlynedd.

Clywodd y llys ei fod wedi gorfodi merch wyth oed i gyflawni gweithred rywiol arno, wedi cael rhyw o flaen plentyn 10 oed, ac wedi ceisio annog dwy ferch ifanc i gyflawni gweithredoedd rhywiol.

Cyfaddefodd Robert Urch, oedd yn anadlu â chymorth tanc ocsigen, i 10 cyhuddiad yn ymwneud â chreulondeb at blant, anwedduster â phlentyn, ymosodiad anweddus ac annog plentyn i gyflawni gweithred rywiol.

Wrth ei gyhuddo dywedodd y Barnwr John Potter fod chwech o’r cyhuddiadau yn ymwneud â “cham-drin tri o blant yn rhywiol yn gyson, o leiaf yn wythnosol”.

Dywedodd ei fod wedi annog y plant i “gymryd rhan mewn gweithredoedd er mwyn eich boddhad rhywiol gwyrdroëdig eich hun”.

Clywodd y llys bod Robert Urch, a oedd yn byw yng Nghaerdydd ar y pryd, wedi gorfod merch wyth oed i gyflawni gweithredoedd rhywiol arno a’i fod wedi ei chyffwrdd hi mewn modd amhriodol, rhwng 1973 ac 1974.

Dywedodd yr erlynydd Kitty Taylor bod y troseddau wedi digwydd tua 30 o weithiau yn ei gar neu yn ei dy.

Clywodd y llys fod Robert Urch hefyd wedi curo bachgen ifanc â chadwyn ci “er mwyn ei gosbi” rhwng 1975 a 1979.

Pan oedd y bachgen yn 10 oed gorfododd Robert Urch iddo ei wylio yn cael rhyw â’i gariad, gan ddweud fod y profiad yn rhan o’i “addysg rywiol”.

Symudodd Robert Urch i Todmorden, yng Ngorllewin Swydd Efrog ar ôl i’w wraig farw, a pharhau i droseddu yn erbyn plant yno rhwng y flwyddyn 2000 a 2009.

Dywedodd y Barnwr Potter bod Robert Urch wedi gadael “creithiau seicolegol dwfn” ar ei ddioddefwyr.

“Dylai eich dioddefwyr wybod nad ydyn nhw ar fai o gwbl am y niwed yr oedd eich drygioni wedi ei achosi,” meddai. “Chi yn unig sydd ar fai.”