Iona Jones
Mae penderfyniad S4C i daro bargen gyda’i gyn-brif weithredwr Iona Jones heb fynd i dribiwnlys wedi cael ei gollfarnu gan Aelod Seneddol Ceidwadol.

Yn ôl Guto Bebb, AS Aberconwy mae S4C wedi cyfaddef bai i bob pwrpas trwy wneud hyn.

Mewn sgwrs gyda Golwg 360, dywedodd Guto Bebb fod y cytundeb cyn mynd i’r Tribiwnlys Cyflogaeth “yn awgrymu bod ‘na fai ar S4C – ac mae ’na ddyletswydd arnyn nhw i ddweud hynny os dyna’r achos.”

Mewn datganiad gan gyfreithwyr S4C, dywedodd y sianel na fydden nhw’n gwneud “unrhyw sylw pellach mewn perthynas â’r mater hwn.”

Dywedodd yr Aelod Seneddol ei fod e’n “hynod siomedig” gyda phenderfyniad S4C, ac yn “rhwystredig ein bod ni’n colli arian prin o gyllideb S4C ar fater fel hyn.”

Cyfrifoldeb yr Awdurdod

“Mae angen i ni wybod a oedd y diswyddiad yn anheg – ac os felly, pwy o aelodau’r Awdurdod oedd yn gyfrifol?” meddai Guto Bebb. “Ac a ydi’r aelodau hynny yn mynd i gyfrannu at yr iawndal?

“Dydi o ond yn deg i ni wybod beth yw cost hyn i’r treth dalwr.”

“Esiampl y BBC yn llesol i S4C’

Yn ôl Guto Bebb, fe fydd dylanwad y BBC yn llesol i “weithredu preifat” S4C.

“Y gwir amdani yw fod atebolrwydd y BBC yn llawer gwell nag S4C, ond gobeithio bydd y hyn yn gwella yn sgîl y drefniant ariannu newydd gyda’r BBC.”

Ond doedd Guto Bebb ddim yn credu mai hyn fyddai diwedd y mater.

“Fydd dim diwedd ar hyn nes y bydd Awdurdod newydd a swyddogion newydd wedi eu penodi i S4C.”