Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal ymchwiliad i achosion o’r ffliw ar ôl i ddau berson farw mewn cartref gofal preswyl yng Nghaerdydd.

Mae 20 o’r 33 o bobl yng Nghartref Dorothy Lewis yn Nhreganna yng Nghaerdydd wedi dioddef symptomau’r ffliw ers 19 Chwefror.

Mae naw yn cael gofal yn yr ysbyty, ac mae dau o’r rheiny wedi marw.

O’r 40 o staff yn y cartref, mae naw hefyd wedi dioddef symptomau tebyg ond dydyn  nhw ddim wedi gorfod cael triniaeth yn yr ysbyty hyd yn hyn.

Mae profion wedi dangos bod y salwch wedi ei achosi gan Influenza A (H3N2) sef y math arferol o ffliw, sydd wedi ei gynnwys yn y brechiad ffliw eleni.

Symptomau

Mae’r preswylwyr hynny yn y cartref sydd heb ddatblygu symptomau o’r ffliw wedi cael Tamiflu er mwyn lleihau’r symptomau os ydyn nhw’n dioddef o’r salwch.

Gall symptomau’r ffliw gynnwys twymyn, peswch, dolur gwddf, cur pen, poenau yn y cyhyrau, blinder a chwydu, ond nid yw rhai o’r symptomau yma bob amser yn bresennol.

Hylendid

Dywedodd Dr Marion Lyons, prif ymgynghorydd rheoli clefydau heintus gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru y dylid gofalu am hylendid er mwyn atal y salwch rhag lledu.

“Mae’r rhan fwyaf o bobl iach yn gwella ar ôl cael y ffliw heb unrhyw broblemau. Ond  gall salwch difrifol ddigwydd o bryd i’w gilydd, yn enwedig ymysg grwpiau bregus fel merched beichiog neu’r rhai sydd â chlefydau cronig,” meddai.

Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru y bydd yn parhau i weithio gyda’r cartref er mwyn monitro’r sefyllfa.