Llys y Goron Caernarfon
Mae Heddlu Gogledd Cymru heddiw wedi datgan bod “neges glir” wedi ei rhoi yn dilyn carcharu 22 o bobl o ogledd Cymru a Lerpwl am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau yn ardal Bangor a Llandudno.

Yn Llys y Goron Caernarfon heddiw carcharwyd 22 o bobl am gyfanswm o dros 100 mlynedd. Roedd yr achos yn benllanw Operation Justice a gynhaliwyd gan Heddlu Gogledd Cymru er mwyn ceisio chwalu’r farchnad heroin a chocên yng ngogledd Cymru. Yn ystod yr ymchwiliad canfuodd yr heddlu gyffuriau oedd yn werth £400,000 a £50,000 mewn arian parod.

Heddiw derbyniodd David John Jones ddedfryd o 10 mlynedd, a Paul David Williams ddedfryd o 6 mlynedd. Derbyniodd ugain o bobl eraill ddedfrydau’n amrywio o 12 mlynedd 15 mis.

Ymchwiliad cudd

Yn dilyn yr achos, dywedodd Ditectif Arolygydd Siôn Williams: “Roedd ‘Operation Justice’ yn ymchwiliad troseddol cudd a gafodd ei gynnal gan Heddlu Gogledd Cymru mewn perthynas â chyflenwad enfawr o gyffuriau Dosbarth ‘A’ yn ardaloedd Canolog a Gorllewinol Gogledd Cymru.

“Rydym wedi datgymalu nifer o grwpiau trosedd trefnedig sy’n gweithio yn yr ardal – o’r prif gyflenwyr yng Nglannau Merswy a Gogledd Cymru i’r bobl hynny sy’n delio ar y stryd.

“Gyda chefnogaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron a’r Llysoedd mae neges glir a chryf yn cael ei hanfon i’r rhai sy’n meddwl dilyn llwybrau’r unigolion yma.

“Y neges i bobl sy’n cyflenwi cyffuriau i Ogledd Cymru ydi does neb yn saff ac os ‘da chi’n arwain grŵp o droseddwyr sy’n gweithredu yn unrhyw un o’n cymunedau, dim ond mater o amser yw hi tan y bydd Cyfiawnder yn cnocio ar eich drws.”