Mae’r Strategaeth Iaith newydd gan Lywodraeth Cymru wedi cael ymateb cymysg heddiw.

Mae Plaid Cymru wedi canmol y strategaeth fel cam yn y cyfeiriad cywir i greu gwlad “wirioneddol ddwyieithog,” tra bod eraill yn credu mai dim ond trwy fuddsoddi’n ariannol y gellid gwneud gwir wahaniaeth i’r iaith.

Mae’r strategaeth yn deillio o ddrafft a luniwyd rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru, pan oedd y ddau yn cyd-lywodraethu fel rhan o glymblaid Cymru’n Un, ac mae Plaid wedi canmol ei ymdriniaeth â’r iaith yn y cartref, y gweithle a’r gymuned heddiw.

‘Cam ymlaen’

Yn ôl Bethan Jenkins, mae gwaith caled Plaid yng nghlymblaid Cymru’n Un wedi “dwyn ffrwyth” yn y strategaeth newydd, ac mae hi wedi disgrifio’r cynlluniau ar gyfer y Gymraeg fel y “cam ymlaen y mae ar y Gymraeg ei hangen.”

Ond beirniadu’r diffyg y mae Cymdeithas yr Iaith heddiw, gan rybuddio bod angen adnoddau, llawn cymaint ag ewyllys gwleidyddol, er mwyn gweithredu’r strategaeth.

“Mae’r weledigaeth a’r nod gyffredinol yn ddigon canmoladwy a chalonogol, ond mae angen adnoddau ac ewyllys gwleidyddol er mwyn creu newid,” meddai Bethan Williams, cadeirydd y Gymdeithas.

“Yng ngwlad y Basg, maen nhw’n buddsoddi tua phedair gwaith mwy na ni yn eu hiaith,” meddai, wrth ymateb i’r newyddion nad oes addewid o fuddsoddi mwy o arian yn y Gymraeg.

“Mae’r Gymraeg mewn perygl yn ei chymunedau: mae’r ystadegau’n paentio darlun argyfyngus, ac mae angen gweithredu radical iawn er mwyn trawsnewid hyn.”

Arwain trwy esiampl…

Mae’r Gymdeithas hefyd wedi defnyddio’r cyfle i danlinellu eu pryderon ynglŷn â defnydd o’r Gymraeg o fewn y Llywodraeth ei hun.

Mae’r strategaeth heddiw yn dweud yn glir bod angen hyrwyddo’r Gymraeg yn y gweithle, er mwyn ei gwneud hi’n iaith ymarferol, bob dydd.

Mae’r gwasanaeth sifil yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Saesneg ac mae hynny’n tanseilio defnydd y Gymraeg ym mywyd cyhoeddus Cymru, yn ol Cymdeithas yr Iaith.

“Mae angen gweithredu ar frys i wella sgiliau iaith y gwasanaeth sifil, a chynyddu defnydd mewnol o’r Gymraeg yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd nesaf,” meddai Bethan Williams.

“Er mwyn normaleiddio’r Gymraeg mae angen iddi fod yn iaith ar gyfer pob agwedd ar fywyd,” meddai.

“Rydyn ni’n croesawu’r datganiad yn y strategaeth ynghylch gosod dyletswyddau o ran yr iaith ar gwmnïau telathrebu a thrafnidiaeth, ond mae angen hefyd deddfu ar gwmnïau mawr dylanwadol fel yr archfarchnadoedd a’r banciau, lle mae’r ddarpariaeth yn dameidiog iawn ar hyn o bryd: wrth i natur gwasanaethau newid, trwy symud ar-lein er enghraifft, gwelwn ddirywiad pellach yn y ddarpariaeth Gymraeg.”

Addysg

Mae RhAG hefyd wedi  croesawu datganiad y Gweinidog bod addysg Gymraeg yn rhan allweddol o weledigaeth y Llywodraeth am yr iaith Gymraeg.

Dywedodd Lynne Davies, cadeirydd RhAG: “Mae RhAG yn llawenhau bod y Llywodraeth yn gweld bod addysg Gymraeg yn allweddol i ddyfodol y Gymraeg. Y cam nesaf yw bod y safonau a gaiff eu gosod gan y Comisiynydd Iaith yn sicrhau bod cynnydd addysg Gymraeg yn parhau.”

Mae RhAG am weld safonau pendant ar ymateb i’r galw am addysg Gymraeg mewn ardaloedd Seisnigedig. Yn ol RhAG, mae tua 40% o rieni ar draws ardaloedd Seisnigedig  de Cymru a’r gogledd-ddwyrain yn dymuno rhoi  addysg Gymraeg i’w plant.  Ond mae’r ddarpariaeth o gwmpas 10%.

Dywedodd Ceri Owen, Swyddog Datblygu RhAG: “Bydd cael safonau pendant ar ddarparu addysg Gymraeg sy’n cyfateb i’r galw’n sbarduno awdurdodau addysg i sefydlu mwy o ysgolion Cymraeg.  Mae’n  rhaid i’r awdurdodau addysg gyflwyno’r cynlluniau addysg Gymraeg i ADAS (adran addysg a sgiliau y Llywodraeth) yn awr, ond bydd cael safonau cadarn yn fodd o orfodi awdurdodau sy’n llusgo’u traed i weithredu. ”

Y Strategaeth

Wrth gyhoeddi’r strategaeth heddiw, amlinellodd Leighton Andrews, y Gweindog â chyfrifoldeb dros yr Iaith, chwe prif faes sy’n cael eu targedu gan y cynllun pum mlynedd newydd.

Mae’r maes cyntaf yn ymwneud â chefnogi’r defnydd o’r Gymraeg yn y cartref, ac o fewn teuluoedd, tra bod yr ail yn edrych ar gynyddu’r ddarpariaeth o weithgareddau Cymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc a chynyddu eu hymwybyddiaeth o werth yr iaith tu hwnt i’r cartref, ac mae’r trydydd yn edrych ar gryfhau safle’r Gymraeg o fewn y gymuned.

O ran y byd gwaith, mae’r strategaeth yn anelu at gynyddu cyfleoedd i bobol ddefnyddio’r Gymraeg o fewn y gweithle, yn ogystal â gwella’r gwasanaeth Gymraeg sydd ar gael ar gyfer pobol o ddydd i ddydd.

Mae’r maes targed olaf yn edrych ar gryfhau’r “seilwaith ar gyfer yr iaith,” a hynny’n cynnwys technoleg ddigidol.

‘Lleisiau newydd’

Dywedodd Leighton Andrews heddiw ei fod yn gobeithio ymestyn y drafodaeth ynglŷn â dyfodol y Gymraeg i gymunedau ar draws Cymru, gan wahodd “lleisiau newydd” i roi eu barn.

“Mae’r Gymraeg yn nodwedd bwysig a chwbl unigryw i Gymru. Mae hefyd yn perthyn i holl bobl Cymru – siaradwyr Cymraeg a siaradwyr di-Gymraeg fel ei gilydd,” meddai.

“Wrth weithredu’r strategaeth hon hoffwn wahodd lleisiau newydd i’n cynorthwyo â’r dasg heriol o gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn y gymuned.”