Carwyn Jones
Bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a’r Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews yn lansio Strategaeth  Iaith Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru heddiw.

Cyhoeddwyd mai nod y strategaeth yw cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg a rhoi mwy o gyfleoedd i bobl fedru ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd, gan gynnwys drwy gyfryngau cymdeithasol a thechnoleg newydd.

Iaith fyw, iaith byw

Wrth iddo lansio strategaeth newydd pum mlynedd Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg Iaith fyw: iaith byw, dywedodd Leighton Andrews, y Gweinidog sy’n gyfrifol am y Gymraeg: “Mae angen i ni roi anadl einioes newydd i’r iaith. Dylai Llywodraeth Cymru arwain y ffordd, gan ymwneud â’r sefydliadau mwyaf blaenllaw er mwyn sicrhau lle i’r Gymraeg ar bob platfform, ac ym mhob agwedd ar ein bywydau.

“Mae’r Gymraeg yn nodwedd bwysig a chwbl unigryw i Gymru. Mae hefyd yn perthyn i holl bobl Cymru – siaradwyr Cymraeg a siaradwyr di-Gymraeg fel ei gilydd. Wrth weithredu’r strategaeth hon hoffwn wahodd lleisiau newydd i’n cynorthwyo â’r dasg heriol o gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn y gymuned.”

‘Creu rhagor o gyfeloedd i blant’

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: “Mae angen i ni greu rhagor o gyfleoedd i blant a phobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ysgol. Daeth ymgynghoriad gan yr Urdd i’r casgliad bod plant a phobl ifanc yn awyddus i weld rhagor o weithgareddau cyfrwng Cymraeg.

“Gwelwyd mai gweithgareddau chwaraeon oedd fwyaf poblogaidd, ac yna gweithgareddau dawns, drama, celf a gweithgareddau awyr agored.

“Trwy’r strategaeth hon byddwn yn parhau i gefnogi gweithgareddau tebyg, ond yn bwysicach byddwn yn ymgynghori â nhw er mwyn sicrhau ein bod yn darparu’r hyn y mae galw amdano.”

Technoleg

Un o’r newidiadau mwyaf arwyddocaol, o’i gymharu â’r strategaeth ddrafft a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010, yw’r pwyslais ychwanegol ar dechnoleg a’r cyfryngau newydd.

Dywedodd Leighton Andrews: “Bydd y cyfryngau darlledu traddodiadol a’r cyfryngau digidol newydd sy’n datblygu yn gwbl allweddol i ddyfodol yr iaith. Bydd angen i ddatblygiadau newydd ym myd y cyfryngau, technoleg a chynnwys digidol fod ar gael yn y Gymraeg er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried yn iaith fodern ac yn iaith fyw.

“Ein huchelgais a’n disgwyliad yw y dylai siaradwyr Cymraeg allu byw eu bywydau’n electronig, i’r un graddau â siaradwyr di-Gymraeg. Siaradwyr Cymraeg sy’n gyfrifol am rai o’r datblygiadau mwyaf cyffrous mewn deunyddiau Cymraeg ar-lein. Mae’n rhaid i ni fanteisio ar yr ymrwymiad a’r brwdfrydedd hwn, gan roi cyfle i leisiau newydd a sicrhau bod hyn yn parhau.”

Cronfa newydd

Fe fydd grŵp yn cael ei sefydlu er mwyn cynghori Llywodraeth Cymru ynghylch y ffordd orau o gefnogi’r gwaith hwn. Bydd cronfa newydd hefyd yn cael ei chreu er mwyn hwyluso datblygiad meddalwedd a rhyngwynebau digidol cyfrwng Cymraeg.

    Mae’r strategaeth yn amlinellu chwe nod gan gynnwys annog a chefnogi’r defnydd o’r Gymraeg o fewn teuluoedd;  cynyddu’r ddarpariaeth o weithgareddau Cymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc a chynyddu eu hymwybyddiaeth o werth yr iaith; cryfhau safle’r Gymraeg o fewn y gymuned;  cynyddu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle;   gwella gwasanaethau Cymraeg ar gyfer dinasyddion; a chryfhau’r seilwaith ar gyfer yr iaith, gan gynnwys technoleg ddigidol.

    Sêr rygbi

    Bydd y strategaeth yn cael ei lansio yng nghwmni rhai o wynebau blaenllaw rygbi Cymru gan gynnwys maswr Cymru Rhys Priestland, Pennaeth Undeb Rygbi Cymru Roger Lewis, ac un o hyfforddwyr y tîm cenedlaethol, Robin McBryde.

    Dywedodd Robin McBryde: “Dw i wedi bod yn ffodus yn fy ngyrfa fel chwaraewr ac fel hyfforddwr, gan fod y Gymraeg yn cael ei siarad i raddau gwahanol yn yr holl agweddau ar fyd rygbi dwi wedi bod yn gysylltiedig â nhw.

    “O’r Wyddgrug a Phorthaethwy yn y Gogledd i Abertawe, Llanelli, y Scarlets, a bellach tîm cenedlaethol Cymru, roedd yna siaradwyr Cymraeg, ac mae hynny’n wir yn achos fy mhlant i hefyd, sy’n chwarae’n rheolaidd yng nghlwb rygbi’r Tymbl. Mae’r iaith Gymraeg wedi bod yn rhan amlwg o’r clybiau dw i wedi bod yn gysylltiedig â nhw, ac mae’r clybiau hynny hefyd wedi bod yn ganolbwynt i bob un o’r cymunedau dw i wedi byw ynddyn nhw.”

    Loteri’n cefnogi’r iaith

    A hithau’n Ddydd Gŵyl Dewi mae Cronfa’r Loteri Fawr wedi cyhoeddi ei bod wedi dyfarnu dros £4 miliwn o gefnogaeth i brosiectau’r iaith Gymraeg ers ei sefydlu yn 1994. Dyfarnwyd arian i fudiadau megis Urdd Gobaith Cymru ym Merthyr Tudful, Deudraeth Cyf, a Chylch Meithrin Banc Siôn Cwilt.

    Dywed John Rose, Cyfarwyddwr y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru: “Rydym yn anelu at gefnogi pobl a lleoedd sydd â’r angen mwyaf ac mae llwyddiant ein prosiectau iaith Gymraeg yn dangos pa mor fyw yw’r iaith ar draws Cymru”.