Mae astudiaeth gan wefan hanes teulu yn awgrymu bod pobl o dras Cymreig â gwybodaeth well o ieithoedd tramor na phobl sydd heb waed Cymreig.

Heddiw mae gwefan findmypast.co.uk yn cyhoeddi casgliadau cyflawn o fedyddiadau, priodasau a chladdedigaethau yng Nghymru, a chanfuodd ymchwilwyr ar ran y wefan fod pobl oedd â chyswllt teuluol Cymreig yn fwy tebygol o fedru cyfri i 5 mewn iaith estron na phobl oedd heb gyswllt Cymreig.

Yn ôl yr ymchwil a gynhaliwyd ym mis Ionawr, roedd 86% o bobl o dras Cymreig yn medru cyfri i 5 yn y Ffrangeg, ac 82% o’r rhai oedd heb dras Cymreig. Roedd 32% o’r bobl o dras Cymreig yn medru cyfri yn y Sbaeneg a 27% o’r rhai nad oedd yn Gymry. Roedd yr ystadegau yn fwy trawiadol gyda rhifo’n Gymraeg – 32% o bobl o dras Cymreig yn medru cyfri i 5 yn y Gymraeg, ac 1% o bobl heb dras Cymreig.

‘Cymry’n chwifio’r faner’

Mewn ymateb i’r ystadegau dywedodd llefarydd ar ran y wefan, Marc Webber: “Mae’r ystadegau’n profi bod gan y Cymry glust at ieithoedd. Rydym ni hefyd yn glynu at ein hiaith ein hunain, felly dwi’n anghytuno gyda’r newyddion diflas a ryddhawyd yn ddiweddar gan Fwrdd yr Iaith oedd yn dweud bod nifer y siaradwyr Cymraeg yn gostwng. Dyw hynny ddim yn wir.”

Dywedodd Debra Chatfield, hanesydd teulu gyda findmypast, “Mae gan bobl yn y Deyrnas Gyfunol enw gwael am ddysgu ieithoedd tramor felly mae’n dda gweld y Cymry yn chwifio’r faner yn hyn o beth”.

Mae traddodiad hir o hel achau yng Nghymru. Ychwanegodd Marc Webber: “Mae’r broses o hel achau, oedd yn medru bod yn llafurus ac yn golygu teithio i fynwentydd benbaladr, nawr yn medru cael ei wneud trwy glicio botymau ar y cyfrifiadur.

“Mae rhaglenni megis Who do you think you are? wedi ennyn diddordeb yn y maes, ond y gwir yw bod hi’n haws hel achau erbyn hyn nag y bu.”