Elin Jones
Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wrando ar lais y protestwyr a diwygio eu cynlluniau i israddio ysbytai Cymru.

Roedd cannoedd o brotestwyr wedi teithio i Fae Caerdydd heddiw i leisio eu pryder ynglŷn  â chynlluniau  i symud gwasanaethau o Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth a’u canoli yn Ysbyty Caerfyrddin  ymhellach i ffwrdd.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn mynnu nad oes unrhyw benderfyniadau wedi cael eu gwneud ynglyn â’r ysbyty. Ac mae gweinidogion y Llywodraeth yn pwysleisio nad oes ganddyn nhw unrhyw gynlluniau i israddio’r ysbyty gan gyhuddo’r gwrthbleidiau o “godi bwganod”.

‘Peryglu cleifion’

Ond yn ôl llefarydd iechyd Plaid Cymru Elin Jones fe fyddai cynlluniau i ganoli gwasanaethau  “yn peryglu cleifion trwy symud gwasanaethau allai achub bywydau ymhellach oddi wrth gleifion”.

Yn y Cynulliad prynhawn ma roedd  Plaid Cymru wedi galw ar y  Llywodraeth i gynnal rhwydwaith o ysbytai Dosbarth Cyffredinol er mwyn sicrhau bod cleifion o fewn pellter diogel i wasanaethau all achub bywydau.

Dywedodd  Elin Jones: “Cyn Etholiad Cyffredinol Cymru ym mis Mai, addawodd Llafur na fuasen nhw yn israddio ysbytai nac yn canoli gwasanaethau craidd yn y GIG. Mae cleifion Cymru yn awr yn cael eu gadael yn fregus wrth i Lafur gynllunio i symud y gwasanaethau hyn. Maent yn teimlo eu bod wedi eu bradychu, ac y mae maint y dyrfa ar risiau’r Senedd yn brawf o ddicter y bobl.

“Byddwn yn parhau i alw ar y Llywodraeth Lafur i wrando ar yr hyn sy’n cael ei ddweud gan weithwyr clinigol Cymreig, cleifion Cymreig, a ninnau, a rhoi terfyn ar eu cynlluniau peryglus.”



Llais y protestwyr

Roedd cannoedd o brotestwyr wedi gwneud y daith o Aberystwyth i Gaerdydd bore ma gan gynnal rali tu allan i’r Senedd.

Dywedodd Dai Davies, sy’n 71 oed ac yn dod o Aberaeron:  “Sdim sens bod nhw’n mynd i israddio Bronglais achos drychwch ar y gwaith trafaelu. Digon hawdd edrych ar y map a dweud co Bronglais fan hyn, Caerfyrddin fanco. Ond drychwch ar y milltiroedd. Dim y milltirioedd ond yr hewlydd trafaelu o un man i’r llall.”

A dywedodd y cynghorydd Rowland Jones, o Lanilar nad yw’n ymddiried yn   y Llywodraeth pan mae nhw’n dweud nad oes bwriad ganddyn nhw i israddio’r ysbyty:  “Dw i ddim yn coelio nhw. O’n i’n clywed Carwyn Jones pnawn ddoe yn dweud bod y pleidiau’n codi bwganod, wel dim na’r peth o gwbl. Mae’r peth yn digwydd o flaen ein llygaid ni.

“A bydd dim ots be ddywedan nhw, mae nhw’n dweud eu bod nhw’n ymgynghori ond dw i yn meddwl bod y penderfyniad wedi ei wneud. Dwi ddim yn trystio nhw.”

Mae Nikki Johnson yn nyrs yn Ysbyty Bronglais.  Dywedodd ei bod hi wedi ymuno â’r brotest am fod staff yr ysbyty yn pryderu am eu swyddi.

“Rydan ni’n poeni am ein swyddi. Mae gwlâu wedi cael eu torri ac mae nhw’n torri nhw eto.

“Mae tua 90% o’r cleifion yn ein wardiau ni yn eu 90au. Felly lle mae’r cleifion yma am fynd? Dwi ddim yn credu bod lle iddyn  nhw yng Nghaerfyrddin na Glangwili felly be sy’n mynd i ddigwydd?

“Y gobaith ydy y bydd y Llywodraeth yn newid ei meddwl. Mae nhw eisoes wedi penderfynu beth mae nhw am wneud ond rydan ni’n gobeithio y byddan nhw’n ail-feddwl ar ôl clywed barn y protestwyr heddiw.

“Mae na deimladau cryf iawn, iawn yma heddiw.  Rydw i’n dweud wrth gleifion sy’n cael llawdriniaeth yn Ysbyty Bronglais efallai na fydd y gwasanaeth yna ar gael iddyn nhw ymhen blwyddyn felly mae angen brwydro amdani. Mae’n adnodd gwych sydd angen ei achub a’i wella, nid ei israddio.”

Yn ôl Mike Stevens, Cadeirydd Siambr Fasnach a Thwristiaeth yn Nhywyn, fe fydd israddio’r ysbyty yn gwneud yr ardal yn llai atyniadol i gwmniau sydd am fuddsoddi yno.

“Pwy sydd am agor ffatri neu dod â busnes newydd i ganolbarth Cymru os ydyn nhw’n credu bod eu gweithwyr yn mynd i gael gwasanaeth iechyd eilradd? Mae angen i Carwyn Jones a Lesley Griffiths ail-feddwl eu strategaeth.”