Andrew Thomas
Mae dyn o Gapel Dewi ger Caerfyrddin wedi dod yn seren YouTube ar ôl rhoi cais am gymar ar y we.

Mae Andrew Thomas, 35, sydd  bellach yn byw yn Llundain ac yn gweithio ym maes marchnata, wedi rhoi clip fideo ar wefan YouTube er mwyn gwahodd merched i gwrdd ag e heddiw tu fas i farchnad Spitalfields yn Llundain.

Mae’r clip wedi denu bron i 20,000 mil o wylwyr, ac mae Andrew’n addo bydd ganddo syrpreis i bob merch a ddaw i siarad ag e.

Esboniodd Andrew Thomas, sy’n galw ei hun yn Andrew 29th i hysbysu diwrnod ei stynt, fod canfod cymar yn Llundain yn anodd a phenderfynodd wneud rhywbeth am y sefyllfa. Dywedodd: “Rwy’n berson rhamantus ond jyst heb gael y cyfle.”

“Yn Llundain mae pawb yn cadw at eu hunain, ond adre’n Shir Gâr mae pobl yn siarad da’i gilydd a fel’na ry’n ni’r Cymry.”

Bu’n trydar heddiw: “Sai wedi cael cymaint yn syllu arna i erioed a heddiw. Scary!” Ychwanegodd, “Dewch mlaen ferched. Dwi’n gobeithio bod rhuthr yr awr ginio ar fin dechrau!”.

Mae Andrew Thomas yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Bro Myrddin, Caerfyrddin, ac aeth i Lundain yn wreiddiol i weithio ym maes dylunio.

Am resymau’n ymwneud a rheolau cynllunio bu’n rhaid iddo newid lleoliad ei ddêts, oedd yn wreiddiol i fod tu allan i’r orsaf drên yn Liverpool Street, ac mae bellach yn disgwyl am haid o ferched i ddod i ddweud helo  ger marchnad Spitalfields yn Llundain.