Gary Speed
Mae disgwyl i lu o gyn chwaraewyr rhyngwladol pêl-droed Cymru fynychu gêm gyfeillgar Cymru yn erbyn Costa Rica er cof am Gary Speed heno.

Bydd Ryan Giggs, John Hartson, Mark Hughes, Neville Southall a Robbie Savage ymhlith  50 o sêr a fydd yn cael eu cyflwyno hanner amser yn ystod y gêm heno.

Mae  mwy na 19,000 o docynnau wedi eu gwerthu ar gyfer y gêm.

‘Dathliad o fywyd Gary Speed’

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dweud ei fod am i’r gêm fod yn ddathliad o fywyd Gary Speed.

Yn ogystal a’r gêm, mi fydd cerddorion Cymru yn perfformio cyn y gêm gyda pherfformiadau gan y Super Furry Animals, Bryn Terfel ac Only Men Aloud.

Bydd nifer o elusennau hefyd yn elwa o’r gêm ar ôl cael ei enwebu gan deulu Gary Speed.

Bydd cynrychilolwyr o elusen Cancr MacMillan a’r Ymgyrch ‘Calm’, sy’n ceisio helpu i leihau achosion o hunanladdiad ymysg dynion o dan 35 oed, hefyd yn bresennol yn y gêm.

Hefyd bydd elusen Daisy Garland yno, elusen sy’n ymwneud â phobl sydd wedi cael eu heffeithio gan epilepsi â bydd Academi dan 15 oed Wrecsam, y mae mab Gary Speed yn aelod ohoni, yn elwa o’r achlysur.

Teyrngedau

Bydd sefydlaid a gafodd ei greu gan Craig Bellamy ar gyfer Sierra Leone hefyd yn bresennol.  Bydd Bellamy yn Gapten ar dîm Cymru heno ac wedi gofyn am gyfraniad ar gyfer offer chwarae.

Mi fydd y cyn chwaraewr rhyngwladol Matthew Jones yn cwblhau hanner marathon yn y stadiwm a chasglu arian ar gyfer y Gymdeithas Anafiadau Sbinol.

Yn y dyfodol bydd yn cystadlu mewn marathon llawn, ar ôl cael ei annog i wneud hynny gan Gary Speed.

Fe fydd sawl teyrnged gan hen glybiau Gary Speed, a chwaraeodd dros nifer o glybiau yn yr Uwch Gyngrhair gan gynnwys Leeds, Newcastle, Everton a Bolton.  Roedd hefyd yn rheolwr ar Sheffield United.