Ysbyty Bronglais
Bydd cannoedd o bobol o ganolbarth a gorllewin Cymru yn teithio i Gaerdydd heddiw, er mwyn protestio yn erbyn newidiadau posib i wasanaethau yn Ysbyty Bronglais, Aberystwtyth.

Mae wyth llond bws wedi eu trefnu i fynd â phrotestwyr o leoliadau fel Machynlleth, Tywyn ac Abertystwyth i risiau’r Senedd ym Mae Caerdydd, lle fyddan nhw’n gobeithio argyhoeddi Llywodraeth Cymru o bwysigrwydd Bronglais i’r canolbarth.

Daw’r brotest wrth i Blaid Cymru rybuddio y byddai unrhyw ymgais gan Lywodraeth Lafur Cymru i israddio ysbytai yn rhoi cleifion mewn perygl uniongyrchol.

Mae na bryderon fod y Bwrdd Iechyd Lleol yn cynllunio i symud gwasanaethau pwysig o Fronglais, a’u canoli yng Nghaerfyrddin ac yn Hwlffordd – o leia’ awr ychwanegol i unrhyw un sy’n teithio o’r gogledd i Aberystywth.

‘Mwy o deithio, mwy o farwolaethau’

Mae Plaid Cymru nawr wedi datgaleu ymchwil sy’n dangos fod perthynas rhwng pellter ysbyty a marwolaeth cleifion mewn argyfwng, sy’n dangos fod “mwy o bellter teithio at ysbytai fel petai’n gysylltiedig â mwy o berygl marwolaeth.”

Daw’r casgliad o waith ymchwil a wnaed gan yr Uned Ymchwil Gofal Meddygol ym Mhrifysgol Sheffield.

Heddiw, mae Plaid Cymru wedi cyhuddo’r Llywodraeth o ganiatau i Fyrddau Iechyd Lleol gyflwyno cynlluniau sydd yn israddio ysbytai a chanoli ysbytai craidd.

Yn ôl Elin Jones AC, llefarydd Plaid ar iechyd, mae’n “bwysig fod  pobol yn gallu cyrraedd gwasanaethau all achub eu bywydau, a hynny o fewn pellter digonol i’w cartrefi.

“Ond dan cynlluniau canoli Llafur, bydd y gwasanaethau yn cael eu symud ymhellach i ffwrdd,” meddai Elin Jones.

Wfftio cyhuddiad

Ond wfftio hyn i gyd wna Llywodraeth Cymru.

Wrth amddiffyn y newidiadau, a’r cynlluniau tebygol ar gyfer  gwasanaethau’r dyfodol, yng nghwestiynau’r Prif Weinidog ddoe, dywedodd Carwyn Jones mai “codi bwganod” oedd hyn gan Blaid Cymru.

“Dwi’n deall pa mor gryf y mae pobol yn teimlo am eu hysbytai lleol, a dyna pam dwi’n pryderu’n fawr bod pobol yn derbyn gwybodaeth anghywir sy’n creu pryder diangen ac anesmwythyd ymhlith cleifion a’r gymuned ehanach lle mae disgwyl i’r ysbytai cyffredinol wasanaethu.”

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ei fod eisiau gwneud rhai pethau’n gwbl glir:

“Does dim cynlluniau i gau ysbyty Bronglais. Bydd ysybytai cyffredinol – fel  Bronglais – yn parhau i fod yn ysbyty rhanbarthol.

“Mae ein hymrwymiad at Bronglais yn glir – ac mae’n cael ei atgyfnerthu  gan y £38miliwn o fuddsoddiad ry’n ni wedi ei roi i’r ysbyty dros y blynyddoedd diwethaf.”

Mae disgwyl i’r protestwyr gyrraedd Caerdydd erbyn canol y bore ’ma, ac mae’n nhw’n gobeithio cwrdd â Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd, wedi’r brotest, i gael trafod eu pryderon.