Mae Heddlu’r De yn apelio am dystion ar ôl ymosodiad ar ddyn yng Nghaerdydd.

Bu’n rhaid i’r dyn 26 oed gael pwythau i’w wyneb yn dilyn y digwyddiad yn Ffordd Greyfriars yn y ddinas am 1.20am ddydd Sul, 26 Chwefror.

Fe ymosodwyd ar ddyn arall 27 oed.

Cafodd pedwar o ddynion eu harestio ar amheuaeth o ymosod ac mae nhw wedi eu rhyddhau ar fechniaeth. Yn ol adroddiadau, roedd dau chwaraewr rygbi rhyngwladol ymhlith y pedwar gafodd eu harestio sef asgellwr Gleision Caerdydd, Tom James, a’r maswr Ceri Sweeney. Dyw’r heddlu heb gadarnhau enwau’r rhai gafodd eu harestio.

Mae’r heddlu’n awyddus i glywed gan unrhyw un a oedd yn yr ardal ar y pryd ac a welodd y digwyddiad.

Y rhif i’w ffonio yw 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.