Bu 2011 yn flwyddyn broffidiol i ffermwyr Cymru yn ôl ystadegau sydd wedi eu rhyddhau heddiw gan Lywodraeth Cymru, sy’n dangos bod incwm y diwydiant wedi codi 31%.

Cynyddodd incwm ffermio yng Nghymru i £209.5 miliwn yn 2011. Daw hyn yn sgil mwy o gynhyrchu gan ffermwyr, prisiau uwch am y cynnyrch, a chynnydd mewn cymorthdaliadau Taliad Unigol gan fod y gyfradd trosi o’r ewro i’r bunt wedi bod yn ffafriol i ffermwyr. Mae’r cymhorthdal Taliad Unigol yn cynrychioli 80-90% o incwm pob ffermwr ar gyfartaledd.

Ar ddydd Mawrth dywedodd Alun Davies, y dirprwy-Weinidog dros Amaeth: “Mae hyn yn newyddion gwych i’r diwydiant ac mae gennym ni lawer i fod yn obeithiol amdano am y flwyddyn sydd i ddod.

“Mae Cymru’n cynhyrchu cynnyrch arbennig ac mae’n galondid bod ffermwyr yn cael eu gwobrwyo gyda phrisiau ac incwm uwch.”

Effaith feirws Schmallenberg

Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Amaethwyr Cymru ei fod yn rhy gynnar eto i ragweld effaith feirws Schmallenberg ar ddarlun economaidd amaeth Cymru yn 2012.

Mae NFU Cymru hefyd wedi datgan pryder ynghylch effaith y feirws.

Meddai Peter Davies, Cadeirydd NFU Cymru: “Rydym yn bryderus iawn ynghylch effaith y clwyf hwn ar ein hanifeiliaid.

“Dylai’r ffocws nawr ar draws yr Undeb Ewropeaidd fod ar ddatblygu prawf i adnabod y clwyf a datblygu brechiad fel bod ffermwyr yn medru amddiffyn eu hanifeiliaid.”