Owen Sheers Llun: Huw Evans
Mae awdur adnabyddus o Gymru wedi honni bod gemau megis honno rhwng Lloegr a Chymru ddydd Sadwrn yn cynnig gwell drama nag y gewch chi yn y theatr neu’r sinema.

Roedd yr awdur Owen Sheers, sy’n dal swydd bardd rygbi Cymru,  yn y gêm ddydd Sadwrn a dywedodd wrth rai o chwaraewyr Cymru fod yr hyn a dystiodd yn well na theatr neu ffilm.

“O ran drama pur, gewch chi ddim gwell na’r rygbi ’dyn ni wedi gweld hyd yn hyn. A does neb wedi ysgrifennu’r sgript.”

Bardd rygbi

Mae Sheers, sy’n hanu o’r Fenni, wedi dod yn adnabyddus ar ôl i’w nofel Resistance, a leolwyd yn y Gororau adeg yr Ail Ryfel Byd, gael ei haddasu’n ffilm.

Ym mis Rhagfyr cafodd ei wahodd gan Undeb Rygbi Cymru i fod yn fardd swyddogol i’r gamp yng Nghymru. Yn ogystal a chael mynediad i garfan Warren Gatland, mae Sheers hefyd yn bwriadu cyfleu ar bapur helyntion a gorchestion y clybiau lleol.

Y llynedd fe gydweithiodd Owen Sheers gyda’r actor Michael Sheen er mwyn cynhyrchu The Passion ar strydoedd Port Talbot.

Ychwanegodd Sheers fod Cymru’n lleoliad delfrydol ar gyfer ffilmiau. “Mae Cymru’n genedl fach ble gallwch chi ddal golygfeydd o’r môr, o ddiwydiant, o bentref neu o fryn, oll o fewn hanner awr.”

“Mae angen i ni gynhyrchu ein ffilmiau ein hunain ac nid jyst ceisio denu’r blocbystars i ddod yma dros dro”.

Bydd tîm rygbi Cymru’n gobeithio cynhyrchu rhagor o gyffro yn y ddwy gêm sy’n weddill yn y Bencampwriaeth, yn erbyn yr Eidal a Ffrainc yng Nghaerdydd.