Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn ddioddef anafiadau difrifol i’w ben yn dilyn ymosodiad tu allan i dafarn yn Wrecsam.
Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i’r digwyddiad tu allan i dafarn Fairfield ar gyffordd Ffordd Erddig a Ffordd Wellington am 6.30pm nos Sadwrn, 25 Chwefror.
Cafodd y dyn, sydd yn ei 40au cynnar ac yn dod o Wrecsam, ei gludo i Ysbyty Maelor Wrecsam ond cafodd ei drosglwyddo yn ddiweddarach i Ysbyty Walton yn Lerpwl. Mae’n dedbyg ei fod mewn cyflwr difrifol.
Mae’r Heddlu’n credu bod nifer o bobl wedi gweld yr ymosodiad ac mae nhw’n awyddus i unrhyw dystion i gysylltu â nhw.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Martin Davies: “Dyma ddigwyddiad ffiaidd ac mae’r dioddefwr yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol i’w ben. Rydym yn gwybod bod llawer o unigolion yng nghyffiniau’r dafarn ar adeg yr aflonyddwch a byddwn yn apelio arnynt i ddod ymlaen a’n helpu ni gyda’n hymchwiliad.”
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu Gogledd Cymru ar 101.