Bydd Uned Cefnogaeth Awyr Heddlu De a Dwyrain Cymru yn cynnal sgwrs fyw o’r awyr heno, wrth iddyn nhw ddechrau sesiwn byw o dyrdar gyda’u 7,000 o ddilynwyr.

Bydd yr uned yn agor y drafodaeth rhwng 6.30pm a 7.30pm heno, gan ateb cwestiynau am eu gwaith yn fyw o’r hofrennydd.

Dilynwyr

Mae’r cynllun yn ymateb i alwadau am sesiwn trydaru byw gan gannoedd o ddilynwyr @helicops ar eu cyfri trydar. A heno, o 6.30pm ymlaen, bydd y cyhoedd yn cael cyfle i holi unrhyw gwestiwn sydd ganddyn nhw am waith y patrôl uwch eu pennau.

Wrth drafod y cynllun heddiw, dywedodd Gary Smart o Uned Cefnogaeth Awyr De a Dwyrain Cymru fod y tîm yn edrych ymlaen at gynnal sgwrs sgored gyda’u dilynwyr.

“Maen nhw wedi bod yn gofyn am hyn ers peth amser nawr, a gallwn ni ddim meddwl am ffordd well er mwyn cyfathrebu â’r cyhoedd,” meddai.

Mae’r criw yn barod i ateb bob math o gwestiynau, o’r rhai technegol yn ymwneud â’r hofrennydd, i’r math o dasgau mae’r tîm yn gorfod ei wneud o ddydd i ddydd, i esbonio hanes sefydlu’r uned.

“R’yn ni’n edrych ymlaen yn fawr am y sgwrs byw awr o hyd gyda’n dilynwyr ar Twitter,” meddai Gary Smart.