Mae gwr 77 oed mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty’r Brifysgol yng Nghaerdydd wedi damwain rhwng ei gar a lori.

Digwyddodd y ddamwain rhwng y Mercedes a’r lori ar yr A48 yn Y Pîl ger Penybont ychydig cyn hanner dydd dydd Sadwrn.

Bu’n rhaid i’r gwr gael ei dynnu o’r car gan y gwasanaethau brys ac fe gafodd ei gludo i Gaerdydd mewn hofrennydd.

Chafodd gyrrwr y lori mo’i anafu ond bu’r ffordd ar gau am dros bedair awr.

Mae Heddlu De Cymru wedi gofyn i unrhyw un sydd gan wybodaeth am y ddamwain i ffonio 02920 633438 neu 101 neu Daclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555111.