Mae cwmni sydd eisiau creu fferm wynt ger Llanbrynmair yn dweud y byddan nhw’n treblu’r gronfa gymuedol os y bydd y cynllun y cael ei gymeradwyo.

Mae cwmni RWE npower renewables eisiau codi 50 o dyrbinau gwynt yng Ngarnedd Wen yn yr ardal.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni bod cyfraddd y farchnad wedi codi ers i’r cynllun gael ei gyflwyno yn 2008 ac mai dyma ac nid unrhyw wrthwynebiad lleol sydd wrth wraidd y cyhoeddiad.

Yn ôl Kathryn Harries o RWE npower renewables, buasai’r arian yn cefnogi cynlluniau datblgyu economaidd.

“Fe wnaethon ni fuddsoddi dros £313,000 mewn cymuendau lleol ar draws Cymru yn 2011,”meddai.

Mae yna gryn wrthwynebiad i ffermwydd gwynt yn yr ardal yma, a’r gwrthwynebiad wedi cynyddu llynedd ers i ‘r Grid Cenedlaethol gyhoeddi eu bod am adeiladu is-orsaf yn Aber-miwl ger y Drenewydd neu yng Nghefn Coch ger Llanfair Caereinion.