Llwyddodd dau deithiwr mewn awyren fechan i ddianc yn ddianaf ar ôl i gorfod galnio ar frys mewn cae ger maes awyr Abertawe.
Cafodd yr awyren dwy sedd ei difrodi wrth lanio ar gaeau Manor Farm brynhawn ddoe (Sadwrn).
Daeth tair injan dân o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yno i sicrhau bod yr awyren yn ddiogel.
Bydd adroddiad am yr hyn ddigwyddodd yn cael ei baratoi rwan ar gyfer yr Adran Drafnidiaeth