Nathan Cleverly
Mae’r Cymro Nathan Cleverly yn parhau i fod yn bencampwr y byd pwyse is-drwm heddiw ar ôl curo’r Americanwyr Tommy Karpency yng Nghaerdydd yn hwyr neithiwr.

Roedd Cleverly yn ffefryn i ennill yr ornest yn gyfforddus ond cafodd llawer eu plesio gan berfformiad ac ymdrech Karpency.

Wedi dweud hynny, y Cymro oedd y bocsiwr gorau trwy gydol yr ornest a doedd dim amheuaeth ynglŷn â’r canlyniad yn y diwedd wrth i’r tri beirniad sgorio’r ornest o blaid Cleverly, 120 pwynt i 108.

Roedd cornel Karpency yn meddwl ei fod wedi siglo Cleverly yn y rownd gyntaf ond wedi llithro yr oedd y Cymro. Wedi hynny, rheolodd y dyn o Gaerffili’r ornest ac roedd yn llawn haeddu’r fuddugoliaeth yn y diwedd.

Cleverly yw’r unig bencampwr bocsio y byd o Brydain bellach a dywedodd bod ennill gartref yng Nghymru yn bwysig iddo am ei fod eisiau rhoi bocsio Cymru yn ôl ar y map.

“Y peth pwysicaf i mi oedd dychwelyd gartref fel pencampwr y byd,” meddai.

“Mae fy 11 gornest ddiwethaf wedi bod ar y ffordd. Roedd yr awyrgylch yn drydanol neithiwr a dwi’n gobeithio bod y cefnogwyr wedi mwynhau.”