LLys y Goron Caernarfon
Mae tri aelod o’r un teulu o Gaergybi heddiw’n cychwyn cyfnod o 12 mlynedd yr un dan glo am ymosod yn greulon ar ddyn gafodd ei guro efo trosol.

Roedd Thomas Welsh 43, ei frawd John 49 a’i fab Kieran 21 i gyd wedi gwadu’r cyhuddiad o achosi niwed corfforol difrfiol yn fwriadol ond dywedodd y Barnwr Merfyn Hughes yn Llys y Goron Caernarfon eu bod wedi mynd allan i  chwilio am Alan Haigh ac yntau’n fregus, yn arbennig er mwyn ymosod arno.

Roedd Thomas Welsh wedi honni bod Alan Haigh, sy’n gyn gyfaill i’r ddau frawd ac sydd hefyd yn dioddef o sgitsoffrenia, wedi torri i mewn i’w dŷ diwrnod yr ymosodiad sef 28 Mai llynedd, a’i fod yn cario trosol a chyllell ar y pryd.

Dywedodd y barnwr bod y tri wedi gyrru  o amgylch Caergybi yn chwilio am Mr Haigh ac yn ystod ymosodiad hir a chiaidd arno fe dorrwyd ei benelin efo’r trosol.

Dywedodd y Prif Arolygydd Nigel Harrison bod “Caergybi yn le mwy diogel bellach heb y thygs llwfr yma oedd yn amlwg yn creu eu bod uwchlaw’r gyfraith.”