Aethpwyd ag un person i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin yn gynnar y bore yma yn dilyn tân mewn ystafell wely yn Aberteifi.

Does dim gwybodaeth am gyflwr y person ar hyn o bryd.

Galwyd y Gwasanaeth Tân ac Achub i adeilad yn Melin y Dre am chwarter wedi un y bore yma ac er eu bod wedi llwyddo i gadw’r fflamau yn yr ystafell wely yn unig, roedd yr oll o’r llawr cyntaf wedi diodde yn arw oherwydd effaith mwg.

Mae’r diffoddwyr a swyddogion fforesnig wrthi’n ymchwilio i achos y tân ar hyn o bryd.