Shaun Edwards a Warren Gatland
Mae’n benwythnos tu hwnt o brysur ym myd chwaraeon yng Nghymru gyda gemau rygbi, pêl droed a gornest focsio bwysig i gyd yn digwydd o fewn 48 awr.

Bydd y cyfan yn cychwyn wrth i dîm rygbi Cymru geisio ennill y Goron Driphlyg am y tro cyntaf ar dir Twickenham y prynhawn yma.

Mae Cymru wedi ennill y goron 19 o weithiau – ond erioed yn erbyn Lloegr yn Twickenham a hynny o bosib gan mai y gêm yn erbyn Lloegr oedd y gyntaf yn hanesyddol tan eleni.

Cymru ydi’r ffefrynnau i ennill y gêm ac mae hyfforddwr yr amddiffyniad, Shaun Edwards wedi dweud y bydd y tîm yn targedu diffyg profiad y Saeson er mwyn cario’r dydd.

Yna heno bydd Nathan Cleverly yn amddiffyn ei deitl bocsio WBO yn erbyn Tommy Karpency yng Nghaerdydd.

Dyma’r tro cyntaf i ornest am un o deitlau’r byd gael ei chynnal yng Nghymru ers i Joe Calzaghe guro Mikkel Kessler yn 2007.

“Mae’n beth arbennig iawn i wlad fechan fel Cymru lwyfannu gornest focsio pencampwriaeth y byd,” meddai Cleverly. “Mae’n wych i’r genedl ac i’r cefnogwyr ac i minnau fod yn rhan o’r cyfan.”

I gloi’r penwythnos bydd Dinas Caerdydd yn chwarae yn erbyn Lerpwl yn Wembley yfory yn gêm derfynol Cwpan Carling.

Bydd cefnogwyr o Gaerdydd i Kuala Lumpur yn gobeithio mai’r adar gleision fydd yn fuddugol. Mae perchennog clwb Caerdydd, Tan Sri Vincent Tan Chee Yioun yn byw ym Malaysia ac wedi dweud y bydd miloedd yno yn gwylio’r gem.

Mae cefnogwyr Dinas Caerdydd wedi dweud hefyd y byddan nhw’n talu teyrnged i gefnogwr laddwyd y tu allan i stadiwm Wembley ym mis Medi llynedd yn fuan cyn i’r gêm rhwng Cymru a Lloegr gychwyn.

Bydd llecyn yn cael ei gadw yn Wembley er mwyn i gefnogwyr osod sgarffiau, fflagiau a blodau er cof am Michael Dye  fu farw ar ôl iddo gael ei gicio yn ei ben a’i guro.

Carcharwyd Ian Myttin, 41 o Redditch am dair blynedd wedi iddo bledio yn euog o ddynladdiad Mr Dye yn yr Old Bailey mis Tachwedd.