Gwartheg
Gallai mwyafrif y lladd-dai bychan a chanolig eu maint yng Nghymru gau os yw cynlluniau newydd gan Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cael eu gweithredu.

Fe fydden nhw’n golygu cynnydd yng nghost archwiliadau glendid a hynny, yn y pen draw, yn ffafrio’r archfarchnadoedd ar draul cigyddion lleol sy’n prynu o’r lladd-dai bach.

Dywed Llywydd yr Undeb, Gareth Vaughan, y byddai cynigion yr Asiantaeth – petaen nhw’n dod i rym – yn golygu cynnydd mawr yn y costau archwilio.

“Ychydig o amheuaeth sydd y bydden nhw’n gwneud lladd-dai bach a chanolig yn aneconomaidd,” meddai. “Canlyniad hyn fydd llawer o’r lladdai yn cau – o bosibl y mwyafrif o ladd-dai yng Nghymru.”

Wrth ymateb i ymgynghoriad yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar y cynigion, mae’r Undeb wedi pwysleisio y byddai cigyddion ymhlith y rhai a fyddai’n cael eu taro waethaf.

“Fe fydd y cynigion hyn yn tanseilio busnesau annibynnol ac yn helpu’r archfarchnadoedd mawr,” meddai Gareth Vaughan. “Fe fe fyddai hyn hefyd yn bygwth swyddi yng nghefn gwlad.”

Mae 28 o ladd-dai wedi eu cofrestru yng Nghymru a’r rhan fwya’ o’r rheiny’n gymharol fach.