Mae S4C wedi cyhoeddi heddiw eu bod nhw wedi dod i gytundeb gyda chyn-brif weithredwr y sianel, Iona Jones.

Daw’r cytundeb fel yr oedd y Tribiwnlys Cyflogaeth ar fin ystyried achos o ddiswyddo annheg rhwng Iona Jones a’r sianel.

Fodd bynnag, does dim gwybodaeth wedi ei rhyddhau ynghylch faint o arian y mae S4C wedi ei dalu iddi.

Mewn datganiad byr gan gyfreithwyr S4C, cadarnhwyd fod y sianel a’r cyn-brif weithredwr “wedi dod i gytundeb mewn perthynas â hawliadau Iona Jones gerbron y Tribiwnlys Cyflogaeth.”

Daw hyn â diwedd posib i ffrae a ddechreuodd yn ôl yn haf 2010 pan adawodd Iona Jones ei swydd dan gwmwl o ddirgelwch.

Erbyn Rhagfyr 2010 fe ddaeth hi’n glir mai wedi ei diswyddo yr oedd Iona Jones, ar sail anghytundeb sylfaenol rhwng Bwrdd y Cyfarwyddwyr ac Awdurdod S4C.

Gwrthododd S4C ddatgelu unrhyw fanylion ynglyn â’r cytundeb rhwng y sianel a Iona Jones, heblaw dweud “fod pawb yn falch o’r canlyniad.”