Leanne Wood
Mae Leanne Wood wedi cyhoeddi y bydd cynnal adolygiad brys ar sut i amddiffyn cymunedau Cymraeg yn flaenoriaeth iddi os caiff ei dewis fel arweinydd Plaid Cymru.

Wrth gyhoeddi ei phapur polisi ar yr iaith heddiw, dywedodd Leanne Wood y byddai’n sefydlu grŵp i adrodd yn ôl ar y sefyllfa o fewn chwe mis, gyda mesurau i adfywio cymunedau Cymraeg.

Yn ôl Leanne Wood, byddai’r grŵp yn ymgynghori ar gyfres o syniadau penodol i ddechrau, ac yn gofyn am ragor o syniadau ar gyfer polisiau yn ystod y trafod.

Y syniadau

Byddai’r ymgynghoriad yn gofyn i bobol am eu barn ar syniadau yn cyffwrdd â meysydd adeiladu tai, Cymraeg yn y gweithle, addysg a datblygu ar gymunedau Cymraeg.

Mae saith syniad tu ôl i’r ymgynghoriad, sef: creu marchnad lafur Gymraeg; ehangu mentrau iaith i fod yn fentrau cymunedol; cael trefn gynllunio gynaliadwy a sensitif er mwyn atal gor-ddatblygu a gwneud y Gymraeg yn iaith weinyddol i ragor o gynghorau sir.

Y syniadau eraill yw cefnogi diwydiant digidol Cymraeg sy’n buddsoddi yng nghymunedau’r wlad; buddsoddi mewn addysg i oedolion; a chreu melin drafod i greu seilwaith ymchwil i faterion yn ymwneud â’r Gymraeg, i sicrhau fod cynllunio ieithyddol yn y dyfodol wedi ei seilio ar dystiolaeth.

‘Un frwydr’

Wrth gyhoeddi’r syniadau heddiw, dywedodd Leanne Wood mai “un frwydr yw ymgyrch Plaid Cymru dros annibyniaeth a dros y Gymraeg – ni ellir gwahanu’r ddwy.”

Dywedodd fod y Gymraeg yn “etifeddiaeth gyffredin i ni oll ac mae gennym oll gyfrifoldeb i sicrhau ei bod yn goroesi. Rhaid i ni weithio i greu’r amodau gorau iddi ffynnu – fydd hyn ddim yn digwydd yn naturiol.

“Rwy’n argyhoeddiedig mai mewn Cymru annibynnol ac economaidd lewyrchus y caniateir yr amodau gorau ar gyfer ffyniant y Gymraeg. Dyna paham mae’n rhaid i ni feddu ar y gallu i benderfynu sut  gallwn newid amodau cymdeithasol pobol Cymru,” meddai.

‘Nid iaith i’r lleiafrif’

Mae’r ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Cymru yn gwrthod yr honiad mai iaith i’r “élite neu i leiafrif” yw’r Gymraeg.

A hithau’n ddysgwraig Gymraeg o’r Cymoedd, mae’n dweud bod angen osgoi ystyried y Gymraeg fel “’problem’ a’i gosod mewn bocs ar ei phen ei hun.”

“Rydw i, fel cynifer yn y Gymru gyfoes, wedi colli allan o ran y Gymraeg yn sgil strategaeth bwriadus i sathru’r Gymraeg fel iaith Cymru. Rhaid i ni greu Cymru lle mae defnydd o’r Gymraeg yr un mor naturiol a normal â defnydd o’r Saesneg. Rhaid i’r Gymraeg ddod yn rhan annatod o’n gwlad os yw hi am ffynu,” meddai.

Daw’r cyhoeddiad wrth i hyd at 8,000 o bapurau pleidleisio gael eu hanfon  i aelodau Plaid Cymru ar hyd a lled y wlad, yn barod i ddewis arweinydd newydd Plaid Cymru erbyn canol mis Mawrth.

Mae’r bwcis yn dal i roi Elin Jones ar y blaen fel ffefryn, ond mae Leanne Wood yn agos iawn wrth ei sodlau, a Dafydd Elis-Thomas yn y trydydd safle, mewn ras sydd wedi gweld nifer y ceffylau yn disgyn o bedwar i dri, wedi i Simon Thomas AC dynnu allan o’r ras a rhoi ei gefnogaeth i Elin Jones.